Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/310

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(index) goreu i wybod beth oedd yn ei feddyliau tragywyddol, cyn creu dyn nac angel. Os yw cynllun iechydwriaeth, yn ol gair yr Arglwydd, yn cynwys digon ar gyfer pawb, a galwad a'r bawb i gyfranogi fel y byddont cadwedig, gallwn fod yn sicr fod y cynllun yr un mor helaeth yn y meddwl dirgelaidd a'r bwriad tragywyddol. Y gair yw ein rheol ni, ac os yw y gair yn ein gadael yn ddiesgus, yr ydym yn ddiesgus yn wir.

4. Fod deiliaid yr Efengyl yn ddiesgus a ymddengys yn amlwg wrth ystyried goleuni yr oruchwyliaeth yr ydym dani a helaethrwydd ei breintiau.

Mae yn wir fod yr Iuddew dan oruchwyliaeth y cysgodau yn gwbl ddiesgus; goruchwyliaeth ddaionus ac efengylaidd oedd hono, a gellir dyweyd ei bod yr oruchwyliaeth oreu a mwyaf priodol i ddyben mawr ei gosodiad. Er mai "goruchwyliaeth damnedigaeth" ydoedd, ac mai "adgoffa pechodau a wneid ynddi bob blwyddyn, eto yr oedd yn oruchwyliaeth "ogoneddus." Pob oen a offrymid a gyfeiriai yr addolydd at "Oen Duw, yr hwn sy'n tynu ymaith bechodau y byd;" pob dyferyn o waed a dywelltid ar yr allor Iuddewig a ddywedai yn ei iaith fod un diniwed i gael ei offrymu dros yr euog; a'r holl brophwydi a lefarasant am y Siloh, unig obaith pechadur.

Ac yn awr, os oedd yr oruchwyliaeth hono yn ogoneddus, pa faint mwy y mae yr oruchwyliaeth yr ydym ni dani yn rhagori mewn gogoniant." Mae "cyflawnder yr amser" wedi dyfod arnom ni. Duw wedi anfon ei Fab ei hun, wedi ei wneuthur o wraig a than y ddeddf; mae gweithrediadau a dyoddefiadau y Gwaredwr wedi taflu goleu yn ol ar y cysgodau a'r proph-