Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/311

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wydoliaethau a gerddasant o'r blaen am dano; ac felly y mae yr orchwyliaeth yn fwy goleu, yn fwy tyner, ac yn fwy ysbrydol.

Ac O mor helaeth ein breintiau ni, Gymry, yn y dyddiau presenol! Er na bu neb o honom yn llygaid—dystion o wyrthiau y Gwaredwr, na chlywsom ef yn llefaru ac na welsom ei wedd; eto mae ein breintiau mewn ystyr yn helaethach na'r eiddynt hwy y rhai a'i clywsant ac a'i gwelsant, oblegid y mae yr haul wedi codi yn uwch i'r lan, a'r oruchwyliaeth yn llawer mwy goleu nag ydoedd y pryd hwnw. Maen yn y llwch oedd Iesu Grist y pryd hwnw, ond yn awr y mae wedi ei ddyrchafu yn ben congl faen, &c.; ar y ddaear yr oedd y pryd hwnw mewn sefyllfa o ddarostyngiad, ond y mae yn awr ar yr orsedd, a'r holl nefoedd yn plygu iddo, a phrofion fyrdd wedi eu rhoi mai efe yn wir ydoedd Mab y Duw byw. Mae gair yr Arglwydd genym, ei holl air yn ein iaith gynefin; y weinidogaeth efengylaidd genym yn ei symledd, a'i hawch, a'i melusder; breintiau cyhoeddus a neillduol ty Dduw o fewn ein cyrhaedd; pob rhyddid i fwynhau ein breintiau, heb neb yn gallu ein gorthrymu, ein rhwystro na'n blino, fodd yn y byd! O, pa esgus a allwn ni roi, neb o honom, os yn ol wedi y cyfan y byddwn o gyrhaedd gafael yn y bywyd tragywyddol?

5. Y mynych atalfeydd ag y mae Duw yn gyfodi yn ei ragluniaeth i ddofi y pechadur yn ei rwysg, a'i rwystro ar ei yrfa ryfygus tua'r tân tragywyddol, a ddengys ei gyflwr yn dra diesgus, os yno y myn fyned wedi y cyfan.

Gellir dyweyd yn wir fod holl weithrediadau rhagluniaeth Duw—pa un bynag ai mewn trugaredd ai