Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/312

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn barn—wedi eu golygu i afrwyddo ffordd y pechadur tua dinystr. Beth yw y trugareddau ond goruchwyliaethau daionus i ystwytho y meddwl cyndyn; beth yw y barnau ond rhybuddion fod rhai mwy i'w dysgwyl, os dilyn a wneir lwybrau pechod? Beth yw yr addysgiadau teuluaidd, y gocheliadau, dagrau mamau a thadau tyner, dros fechgyn a genethod gwylltion a gwamal? Beth yw y gruddfanau a glywir mewn dirgel fanau gan rieni dros eu plant—y gwewyr enaid a deimlir ar eu rhan—ond rhyw wrthgloddiau tyner a gododd Duw i dy rwystro i bechu a bod yn golledig? Beth yw yr ysgol Sabbothol a'i gwerthfawr ddylanwadau? beth yw y Sabboth efengylaidd a'i ordinhadau? y cyrddau cwarterol a'r cymanfaoedd? beth ydynt, meddaf, ond gwrthgloddiau cariad i dy atal yn dy rwysg a'th ryfyg rhag colli dy enaid! Mae yma ddynion yn Carbondale wedi mynu eu ffordd heibio i'r rhagluniaethau mwyaf cyffrous, wedi tori dros gloddiau deddfau Duw, yn mathru ei Anwylfab dan draed, yn beiddio y weinidogaeth fwyaf syml, difrifol ac efengylaidd, ac yn penderfynu (yr wyf yn ofni) i fynu eu ffordd tua'r trueni, heibio i'r moddion goreu a fedd Duw i'w rhwystro! O! gofynaf, a fydd y rhai hyny ddim yn ddiesgus yn y farn a ddaw!

6. Argyhoeddiadau cydwybod ac ymrysoniadau yr Ysbryd ar gydwybodau dynion a ddangosant sefyllfa yr annuwiol dan yr efengyl yn gwbl ddiesgus.

Mae dynion yn wahanol iawn i'w gilydd yn eu golygiadau a'u barnau am waith yr Ysbryd, a llawer o ddychymygion disail yn ddiau yn cael eu coleddu ar y mater hwn. Ond beth bynag yw tybiau dynion am yr hyn a elwir "gweithrediadau cadwedigol yr Ysbryd