Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/313

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Glan," mae un peth yn gwbl sicr, hyny yw, nad eisiau dylanwadau nas gellir eu cael, ond yn hytrach cam ddefnyddio y dylanwadau a deimlir, a fydd y gwir achos o golledigaeth y pechadur. "Chwi rai gwar

galed a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi bob amser yn gwrthwynebu yr Ysbryd Glan, megys eich tadau, felly chwithau."

Llawer o ddynion Phariseaidd a hunain—gyfiawn, a gwynant o eisiau dylanwadau mwy grymus o eiddo yr Ysbryd, ac a briodolant yr achos o'u parhad mewn cyflwr anedifeiriol i absenoldeb ei argyhoeddiadau, fel pe byddent hwy i raddau yn ddiesgus o herwydd hyny, pan mewn gwirionedd y maent trwy hir gynefindra â phechod, wedi mygu argyhoeddiadau a gafwyd o'r blaen, a'u cydwybodau eu hunain (fel y dywed yr apostol) wedi eu serio â haiarn poeth. Llawer adeg werthfawr a gafwyd pan oedd yr Ysbryd, trwy y gair a throion rhagluniaethol yn ymryson â'u meddyliau, a thynerwch neillduol yn eu meddianu, ond gwrthodasant yr alwad, caledasant eu gwarau, ac y maent yn awr ar yr ymyl o gael, os nad wedi eu rhoi i fyny i galedwch barnol, a'u damnedigaeth nid yw yn hepian!

Y gwirionedd yw, dylanwad yr Ysbryd yw pob gradd o ddylanwad efengyl, ac nid oes neb sydd dan ei gweinidogaeth nad ydynt wedi teimlo ei dylanwad i ryw raddau. Goruchwyliaeth i'w meithrin ydyw, ac o'i meithrin ni a'i mwynhawn yn helaethach. Nid oes yma un esgus i'r annuwiol am wrthod yr efengyl a bod yn golledig; ond y mae athrawiaeth y Beibl am waith yr Ysbryd yn rhoi yr anogaeth gryfaf i bechadur i droi at yr Arglwydd. Yn lle cwyno ac ymesgusodi mewn diofalwch, ymbil a ddylit bechadur am fwy o