Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/314

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deimlad a mwy o dynerwch, ac ymostwng mewn edifeirwch am i ti daflu y sarhad a wnaethost ar ei weinidogaeth trwy esgeuluso ei ddoniau a pharhau cyhyd mewn anufudd-dod.

7. Bydd gweithrediadau cyhoeddus y farn ddiweddaf yn dangos, i'r boddlonrwydd mwyaf i'r holl fydysawd, fod gwrthodwyr yr efengyl yn ddiesgus.

Ni bydd gan neb esgus yn y diwrnod hwnw. Pe byddai esgus sylfaenol yn bod, diameu y gwrandewid ef, ar adeg mor bwysig, gan y Barnwr cyfiawn; ond ni bydd un i'w gael. Pan ddangosir gwir achos y golledigaeth bydd pawb yn fud. Ni bydd gan neb fodd i ddyweyd, "Nid oedd dim yn yr efengyl ar fy nghyfer," neu "nid oedd dim hawl genyf i edrych at aberth y groes, am fod y 'bwriad' wedi fy nghau allan!" O nage, fy enaid gwerthfawr, nid felly; ond y Barnwr a ddywed, a phob cydwybod a adseina i uniondeb y ddedryd, "Yn gymaint ag i mi wahodd, ac i chwithau wrthod," &c. Anfonais fy ngweision atoch, ond ni fynech wrando ar eu llais, daethum i'ch plith yn enw fy Nhad, ond ni fynech i mi deyrnasu arnoch, anfonais fy Ysbryd i ymryson a'ch cydwybodau, ond diffoddasoch ei argyhoeddiadau, “Ewch ymaith, chwi weithredwyr drygioni," &c. Bydd gweithrediadau y farn, a holl ocheneidiau bythol y colledigion o wlad efengyl yn y boenfa dragywyddol yn adlewyrchu goleuni ar yr athrawiaeth bwysig hon, fod pob dyn yn ddiesgus am wrthod yr efengyl a cholli ei enaid!

Yn awr, anwyl wrandawr, a gawn ni lwyddo wrth geisio dy anog i ffoi at Iesu yn y Gymanfa heddyw, fel yr wyt, dan yr euogrwydd mwyaf a'r trueni gwaethaf? Na ddywed, "Mwy yw fy mhechodau nag y