Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/315

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gellir eu maddeu." Fe welodd Duw yn dda godi i fyny golofnau coffadwriaeth o'i annhraethol ras, ar wahanol amserau, trwy achub rhai o'r rhai gwaethaf a fuont ar y ddaear erioed. Yn mha le y mae Manasseh? Saul o Tarsus? Yn mha le y mae y Corinthiaid a'u cyffelyb? Maent yn wyn heddyw fel yr "eira yn Salmon," yn dangos fod modd yn angau'r groes i achub y penaf o bechaduriaid.

Mae Duw wedi gorchymyn i'w weision fod yn daer. "Cymell hwynt i ddyfod i mewn fel y llanwer fy nhy." Ar air ein Meistr yr ydym ninau yn ymbil ac yn deisyf ar y dyrfa hon, "Cymoder chwi a Duw." Er mwyn cymaint o werth sydd yn dy enaid, er mwyn gogoniant yr Arglwydd, er mwyn yr annhraethol fraint o ysgoi y digofaint sydd ar ddyfod a chael bod byth gyda'r saint a chyda'r Oen ar fryniau gwynfyd, cwympa, fel yr ydwyt, i law trugaredd, fel y byddech gadwedig. Bydded i ddwyfol fendith ddilyn y gwir i'r dyben hwnw. Amen.

DYFYNIADAU O BREGETH.

Salm 130: 3, 4. "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif; ond y mae gyda thi faddeuant, fel y'th ofner."

Mae y Salmydd yn nechreu y Salm hon yn adrodd y trallod y buasai ynddo, a'r modd y bu iddo yn ei drallod alw ar enw yr Arglwydd. "O'r dyfnder y llefais," &c. Nid trallod yn nghylch y freniniaeth ydoedd (os Dafydd yn wir oedd awdwr y Salm), ond trallod yn nghylch ei gyflwr, y cyfryw drallod ag yr oedd golwg ar Dduw yn maddeu anwiredd yn tueddu i'w symud. Hyderwn fod rhai yn y dyddiau hyn yn