Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/316

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwybod am y trallod hwn. "O'r dyfnder y llefais arnat," &c. Nid oes neb yn galw ar Dduw ond o ryw ddyfnder." "Ni raid i'r rhai iach wrth feddyg, ond y rhai cleifion." Ac y mae yn dda i ni allu meddwl nad oes un "dyfnder" yn y byd presenol nad oes modd codi golwg oddi yno at Dduw wrth y drugareddfa. Yn yr adnod nesaf, y mae yn dangos ei awyddfryd a'i bryder, ar fod yr Arglwydd yn gwrando ei weddiau. "Arglwydd, clyw fy llefain," &c.

Mae achos genym i ofni fod llawer yn ymarfer yn allanol â'r ddyledswydd o weddio, heb fawr o wasgfa na chaledi arnynt am i'r Arglwydd eu gwrando. Ond y mae gwir weddio yn cynwys y teimlad hwn. Yna y dywed, "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd pwy a saif?" Sylwn,

I. Ar yr hyn a briodolir yma i'r Arglwydd, sef "craffu ar anwireddau." Wrth hyn y golygir yn ddiau y bydd iddo ddwyn yr anwireddus i gyfrif, fel y gwna y barnwr gwladol ddwyn y drwg—weithredwr i gyfrif. Gallwn nodi yma.

1. Y bydd yr Arglwydd yn sicr o gyfrif â dynion am eu pechodau. Nid "os" o amheuaeth yw yr "os" hon, ond o gadarnhad. Megys y geiriau hyny o eiddo ein Hiachawdwr, "Os myfi a âf ac a barotoaf le i chwi mi a ddeuaf drachefn ac a'ch cymeraf chwi ataf fy hun." Fel pe dywedasai, yr wyf yn myned gyda sicrwydd, a dychwelaf gyda'r un sicrwydd i'ch derbyn ataf fy hun, "fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd." Felly, gyda sicrwydd daw Duw i gyfrif â dyn am ei anwireddau.

Nid oes lle i gilio oddiwrth hyn. Mae cyfiawnder tragywyddol Duw yn galw am fod barn—mae y cam y mae llawer yn gael oddiwrth