Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/317

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

orthrymwyr yn y byd presenol yn galw fod barn—mae diogelwch a dedwyddwch y dosbarth rhinweddol o'r bydysawd yn galw fod barn—mae y cam-gyhuddiadau a ddygir yn erbyn Duw a'i orsedd lân, gan elynion iddo, yn peri y bydd rhaid bod barn. Gyda sicrwydd gan hyny, daw Duw i gyfrif â dynion am eu hanwireddau.

2. Bydd y cyfrif yn gyfrif manwl—bydd yr Arglwydd yn "craffu ar anwireddau." Y gair "craffu" a arwydda sylw manwl. Bydd sylw barnol yn cael ei wneyd ar bob anwiredd—ar bob gweithred anwireddus, ac ar bob esgeulusdod pechadurus. Ar weithredoedd pechadurus yn erbyn Duw—yn erbyn dynion—ac yn erbyn ein lles penaf ein hunain. Pob anmharch o'r efengyl a'i hordinhadau—pob cam a wnaed â saint y Goruchaf. "Am bob gair segur a ddywedo dynion y rhoddant gyfrif yn nydd y farn." "Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag fyddo ai da ai drwg." Mae Duw yn sylwi ar ffyrdd dyn, ac y mae "yn dal ar ei holl gamrau ef."

3. Duw ei hun fydd yn galw y pechadur i gyfrif—– efe fydd yn craffu, "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd," &c. Nid ymddiried y gorchwyl hwn a wna i un o'i brophwydi―nid i un angel nac archangel, ond dyfod ei hun a wna. Bydd y gorchwyl yn ddigon pwysig i alw am bresenoldeb Duw ei hun. Duw, yn mherson y Gwaredwr yn ein natur ni, fydd yn barnu y byd mewn cyfiawnder yn y dydd mawr a ddaw.

II. Na ddichon yr annuwiol sefyll barn â Duw. "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd pwy a saif?"

Ymofynwn yn mha fodd y mae dynion yn ceisio