Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/318

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sefyll yn awr, gan wrthsefyll argyhoeddiadau a chymelliadau yr efengyl, ac edrychwn a allant ar y tir hwnw, neu a oes gobaith ar ryw dir arall, i sefyll barn â Duw?

1. Mae dynion yn ceisio sefyll yn awr trwy wadu bodolaeth pechod. Dyma y tir y saif yr anffyddiwr arno—gwadu gwirionedd y Beibl, a gwadu bod dyn yn gyfrifol i Dduw yn ol y Beibl; felly mewn effaith gwada nad oes anwiredd yn perthyn iddo. Lle nad oes deddf, nid oes gamwedd. Ar y tir hwn y ceir llawer yn ceisio sefyll—ac y maent yn y modd hwn yn gallu sefyll yn awr i wrthdaro ac i droi heibio yn llwyddianus bob cymelliad o eiddo yr efengyl sydd yn galw arnynt i ildio y cweryl a throi at Dduw mewn edifeirwch. Maent yn eithaf tawel—troant y Beibl o'r neilldu—dysgwyliant farw fel yr anifail—a chwarddant am ben y son am farn a byd i ddyfod! Ond a saif yr annuwiol fel yna, pan graffo Duw ar ei anwireddau? A all efe wadu gwirionedd y Beibl pan y gwelo y Barnwr wedi esgyn i'w orsedd, a'r llyfrau wedi eu hagoryd? A all efe wadu y Beibl pan y gwelo bob egwyddor ynddo wedi ei gyflawni, a'i gydwybod o'i fewn yn adseinio i bob cyhuddiad a ddygir yn ei erbyn o lyfrau'r farn? O na, ni bydd neb yn gallu bod yn anffyddiwr, na sefyll ar dir anffyddiaeth, yn y dydd rhyfeddol ac ofnadwy hwnw.

2. Mae rhai yn ceisio sefyll yn awr trwy wadu y gosp am bechod. Er proffesu mewn rhan ddwyfolder yr Ysgrythyrau, mynant nad oes cosp ddyfodol yn bod, neu, nad yw yn dragywyddol. Er i Dduw dystio mor eglur yn ei air am y dragywyddol gosp ag y gwna am y dragywyddol wobr—er fod tragywydd-