Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/319

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oldeb trueni y damnedigion a thragywyddoldeb gwynfyd y saint yn cael eu dal allan yn yr un adnodau, y naill ar gyfer y llall, megys yn y geiriau hyny, "y rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragywyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragywyddol”—a thrachefn, "y rhai a ddyoddefant yn gospedigaeth ddinystr tragywyddol oddi ger bron yr Arglwydd ac oddiwrth ogoniant ei gadernid ef, pan ddel efe i'w ogoneddu yn ei saint ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu".—a llawer o Ysgrythyrau eraill o gyffelyb ystyr—eto ceir llawer yn gwadu y cyfan am y gosp ddyfodol, ac yn sefyll yn dalgryf mewn anedifeirwch ac anghrediniaeth o'r efengyl. Gwrthsafant saethau llymaf argyhoeddiadau yr efengyl yn nghysgod athrawiaeth wael a disail Unifersaliaeth! Ond O! a safant ar y tir yna pan graffo Duw ar eu hanwireddau?—pan bydd y beddau yn agor a'r meirw yn cyfodi, rhai i fywyd tragywyddol a rhai i warth a dirmyg tragywyddol—pan bydd y ddwy dorf wedi ymgasglu ger bron y Barnwr cyfiawn, y nef ac uffern yn y golwg—a safant hwy y pryd hwnw?

3. Mae dynion yn ceisio sefyll yn awr trwy briodoli yr achos o'u pechadurusrwydd i ryw beth arall heblaw eu drygioni eu hunain. Safant yn gryfion yn ngwyneb galwad yr efengyl arnynt i edifarhau am eu pechodau, trwy briodoli yr achos o'u pechodau i'r Adda cyntaf, a dywedant, Beth a allwn ni wrth ein bod yn bechaduriaid, onid o herwydd camwedd Adda yr ydym y peth ydym, a pha beth sydd genym ni i'w wneyd? Mae y cysgod hwn, dan yr hwn y saif llawer i geisio esmwythau eu cydwybodau yn bresenol, yn gymysgedd o wirionedd ac anwiredd. Gwir yw i'r