Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/320

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Adda cyntaf bechu, ac i'r hiliogaeth ddynol syrthio ynddo fel deilen; ond y mae yn wirionedd gwerthfawr hefyd fod Duw yn ymwneyd â dyn yn awr ar delerau cyfamod arall, sef cyfamod yr ail Adda, yr Arglwydd o'r nef. Ar ol rhoddiad yr addewid o Had y Wraig, y mae yr holl fyd yn cael ymwneyd â hwy yn ol telerau cyfamod yr ail Adda. Yr ydym ni wedi cael ein geni ar blatform yr ail Adda, Gwaredwr y byd. Nid pechod yr Adda cyntaf a gondemnia y dyn yn y farn, ond ei anghrediniaeth ei hun, yn gwrthod cwympo i mewn â thelerau esmwyth cyfamod yr ail Adda, sef telerau cyhoeddus ac adnabyddus yr efengyl. "A hon yw y ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni, am fod eu gweithredoedd hwy yn ddrwg." Ni saif neb yn y farn dan gysgod cyfamod Eden—mae dwyfol ras wedi datguddio trefn arall, ac y mae y drefn hono wedi ei datguddio yn helaeth i ni. "Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod, ond yr awr hon nid oes ganddynt esgus am eu pechod." "Pwy a ddichon sefyll?"

4. Mae rhai yn ceisio sefyll yn awr, trwy feddwl y dichon na arfaethwyd eu hachub. Dywed yr annuwiol yn aml, Beth a allaf fi wneyd? os arfaethwyd fy achub fe'm hachubir―os arfaethwyd fy ngholli fe'm collir—beth sydd genyf fi i'w wneuthur ond aros amser Duw. Ofnym fod dosparth mawr o wrandawyr efengyl yn aros ar y tir hwn. Priodolant yr achos o'u colledigaeth i arfaeth Duw, heb ystyried fod arfaeth Duw yn ëang—mor ëang a'r efengyl a'i galwadau. O'r arfaeth y daeth efengyl a'i galwad eang a grasol. Fe arfaethodd Duw ddanfon ei Fab i wneyd cymod