Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/321

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dros bechod y byd—ac fe arfaethodd ddanfon ei efengyl i alw ar bawb i gredu ynddo fel y byddont gadwedig. Nid oes dim yn arfaeth Duw yn anghyson âgalwad fawr yr efengyl—a'r efengyl a'i galwad rasol yw ein rheol ni, ac wrth hon y cawn ein barnu yn y dydd mawr a ddaw. Mae arfaeth dragywyddol Duw a galwad gyffredinol yr efengyl yn berffaith gyson a'u gilydd, a'r cyfan a berthynant i arfaeth ac i efengyl yn bleidiol i ni ddynion i ddyfod at Iesu, credu ynddo a byw iddo, fel y caffom fyw byth gydag ef mewn gogoniant. Nis gall neb dynu un esgus oddiwrth arfaeth lân Duw, i'w cysgodi na'u hesgusodi mewn anufudd—dod i'r efengyl.

5. Rhai a geisiant sefyll yn awr yn nghysgod beiau proffeswyr. Meddyliant fod ganddynt grefydd, yn rhagori ar lawer sydd yn ei phroffesu. Wel, dichon fod hyny yn bod gyda golwg ar y rhai na feddant ond y broffes yn unig ac y mae llawer o ffaeleddau yn y goraf o ddynion yn y byd hwn. Ond os oes rhai yn ymddwyn yn annheilwng o'u proffes, a ydyw hyny yn cyfnewid dim ar grefydd ei hun? Nac ydyw i'r graddau lleiaf. Yr un yw ei gwirionedd, ei dwyfolder a'i gwerth, a'r un yw rhwymau pob dyn i'w chredu a'i chyffesu a byw wrth ei sanctaidd reolau, beth bynag yw ymddygiad eraill tuag ati. Ni saif neb yn y farn yn nghysgod ffaeleddau pobl eraill." Pwy a ddichon sefyll?"

6. Mae rhai yn ceisio sefyll yn awr trwy feddwl nad yw yr argyhoeddiadau ar eu meddyliau yn ddigon grymus. Maent yn meddwl fod pawb a ddaethant at grefydd erioed, yn wirioneddol, wedi cael yr argyhoeddiadau mor rymus nes y gorfu iddynt ddyfod—ac na chawsant hwy mo hyny. Yn awr y mae gwirion-