Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/322

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

edd yn y dybiaeth yna. Mae y rhai a ddaethant at grefydd yn wirioneddol wedi gorfod ildio. Ond ildio o fodd a wnaethant—dewis ildio—ni, buasai rhinwedd yn yr ymddygiad heb ei fod felly. Ni rydd hyn eto ddim esgus erbyn y farn a ddaw. Ni feiddia neb, yn y dydd arswydol hwnw, ddweyd, Ni chefais ddylanwadau digon grymus i'm gorfodi i ddyfod—pe cawswn buaswn inau ar y llaw dde. O na, nid felly, gwrthod meithrin y dylanwadau fydd y condemniad. Meithrin y dylanwadau, drwy ystyried ein ffyrdd a thrwy ymbiliau a gweddiau, a'u cryfhant ac a'u cynyddant; a chwympo fel yr ydym i law y Gwaredwr a'i drefn a'n dwg i dir ag y byddwn yn llawenhau byth i ni gael y fraint o ddyfod iddo.

III. Y gwirionedd gwerthfawr a phwysig a ddatgenir yn y testyn, "Ond y mae gyda thi faddeuant fel y'th ofner." Tri sylw byr a wnawn yma.

1. Y fendith a gyhoeddir yw "maddeuant." Maddeu yw "dileu"—" cuddio "—" anghofio"—pellhau yr anwiredd, "gan belled ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin." O fendith werthfawr i droseddwr nad oes ganddo fodd i sefyll ar dir yn y byd mewn hunanamddiffyniad.

2. Oddiwrth Dduw yn unig y deilliaw y fendith hon, "y mae gyda thi faddeuant." Dyma y man i droi am faddeuant—nid at y Pab na'i offeiriaid na neb arall, ond Duw. Duw yn unig a all faddeu. Cyfraith Duw yw y gyfraith a droseddwyd, ei enw ef a ddianrhydeddwyd ac a anmharchwyd, iddo ef y mae dyn yn gyfrifol am ei egwyddorion, ei ddybenion, ei deimladau a'i ymddygiadau. O'i dosturi anfeidrol ef y daeth allan drefn i faddeu—trwy rinwedd y pridwerth a dal-