Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/323

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyd gan yr ail Berson ar y groes y cafwyd ffordd gyfreithlawn i faddeu—ac yn llaw ei Ysbryd grasol y gweinyddir y fendith—" y mae gyda thi faddeuant." O diolchwn am le i droi i ymofyn am y fath fendith gyfoethog.

3. Mae maddeuant yn cynyrchu ofn yn mynwes y derbynydd. Nid rhoi hyfdra mewn pechod a wna, ond i'r gwrthwyneb yn hollol—peri ofn—ofn mabaidd—ofn ei ddigio yn ol llaw, a hyny o gariad ato a pharch i'w ddeddfau. Dyma a ddywedai yr Iachawdwr yn fynych, pan oedd yma yn nyddiau ei gnawdoliaeth. Maddeuwyd i ti dy bechodau, dos ac na phecha mwyach." Ar dir edifeirwch yn unig y gweinyddir maddeuant, ac y mae edifeirwch yn cynwys gwyliadwriaeth rhag yr hyn yr ydym yn edifeiriol o'i herwydd.

ADDYSGIADAU.

1. Gwelwn nad oes genym le i ddysgwyl gallu sefyll yn y dydd a ddaw, oddieithr i ni dderbyn maddeuant, mewn edifeirwch, wrth orsedd gras, ac yn enw Iesu, yn ein tymor presenol. Marw allan o'r tir yna fydd yn arswydol yn wir.

2. Edrychwn ar fod gras Duw yn ngweinyddiad ei fendithion yn peri ynom fwy o ofn sanctaidd rhag dianrhydeddu ei enw. Ddeiliaid gras, edrychwch ar eich bod yn myned ar gynydd mewn pryder sanctaidd ac ofn pechu.

AT WEINIDOGION YR EFENGYL,

O'R GWAHANOL ENWADAU CREFYDDOL YN MHLITH Y CYMRY YN

AMERICA.

Anwyl Frodyr yn y Weinidogaeth: Llawer gwaith y meddyliais ac y bwriedais gyfeirio ychydig o ymad-