Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/324

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

roddion atoch fel cyd-lafurwyr yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, yn achos y gaeth wasanaeth a'r gaethfasnach a ddygir yn mlaen yn ein gwlad; ond hyd yn hyn yr oedd ofnau rhag y byddwn trwy hyny yn dangos hyf`dra anweddaidd, ac felly yn clwyfo meddyliau rhai o'm brodyr, yn fy lluddias, Ond nid oedaf yn hwy; anturiaf yn addfwynder yr efengyl ddyweyd gair o'm meddwl yn y modd hwn. Yr ydym wedi bod yn rhy ddystaw, anwyl frodyr yn yr achos hwn. Mae yma bechod o'r rhyw ffieiddiaf yn cael ei goledd yn ein gwlad, a gwae a fydd i ni yn ddiau oni rybuddiwn y bobl o'i herwydd. Mae yr ystyriaethau canlynol wedi cael dwys le ar fy meddwl yn yr achos hwn.

1. Yr ydym wedi ein gosod er amddiffyn yr efengyl. Ond yn mha le y mae dim sydd yn taro yn fwy yn erbyn yr efengyl na bod dynion dan broffes o'i sanctaidd egwyddorion yn masnachu mewn cnawd dynol! yn prynu ac yn gwerthu am yr uchaf geiniog y rhai a grewyd ar ddelw Duw, ac a adnewyddwyd, rai o honynt, ar yr unrhyw ddelw trwy ei Lân Ysbryd? "Oni wyddoch chwi,” medd yr apostol, "fod eich cyrph yn demlau i'r Ysbryd Glan?" ac y mae y gwaelaf o blant yr Arglwydd felly; ac a yw temlau yr Ysbryd Glan yn cael eu gwerthu dan y morthwyl yn ein gwlad, a ninau yn ddystaw heb yngan gair dros ein brodyr a'n chwiorydd a brynwyd â phriod waed Mab Duw? Mae pob peth a berthyn i'r gaethfasnach yn wrth-efengylaidd—cymeryd yn lladradaidd y bobl dduon o Affrica sydd groes i'r efengyl—ffieidd-derau a chreulonderau y trosglwyddiad yn y caethlongau—("the horrors, of the middle passage") sydd yn warth tragywyddol ar ddynoliaeth—y fasnach yn y trueiniaid di-amddiffyn-