Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/325

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

edig yr ochr hon—gwahardd y Gair Dwyfol iddynt, i'r dyben i'w cadw mewn anwybodaeth, fel y gwasanaethant yn fwy tawel y dyn gwyn—eu codi i'r farchnad trwy odineb—dileu y berthynas deuluaidd o blith yn agos i dair miliwn o eneidiau, mwy o nifer nag sydd o drigolion yn nhalaeth boblog Caerefrog Newydd o rai canoedd o filoedd—pregethu (lle y pregethir hefyd iddynt) ran o'r gair ac nid yr "holl gyngor" fflangellu yn noethion feibion a merched yn ngolwg haul y nefoedd eu dilyn, pan ddiangont, i goedwigoedd a chorsydd, â drylliau ac â gwaedgwn—gwadu iddynt yr hawlfraint o dystio yn erbyn eu gorthrymwyr mewn llysoedd barnol, ac. o flaen eu brodyr yn nhy yr Arglwydd—amddiffyn y gyfundraeth gaethfasnachol trwy y weithred bwysig o bleidleisio dros y gorthrymwr a'i bleidwyr, a'u codi i swyddi o ymddiried i lywyddu ein gwlad—yr holl bethau hyn a'u cyffelyb yn dal perthynas a'r fasnach mewn dynion, ydynt yn hollol groes i ysbryd i ysbryd a llythyren yr efengyl. Ac a ydyw yn addas i ni, a osodwyd er amddiffyn yr efengyl i fod yn ddystaw yn y pethau hyn?

2. Mae gweision yr Arglwydd wedi eu gosod er amddiffyn dynoliaeth a moesoldeb. Ond yn mha le y mae dim sydd yn fwy anghyson â dynoliaeth, hynawsedd cymdeithasol, a gwir foesoldeb na'r gaethfasnach a'i chysylltiadau? Y duwiol John Wesley a'i geilw yn grynöad o'r holl ysgelerderau, "the sum of all villainies."

3. Mae gweision yr Arglwydd i ddefnyddio eu holl ddylanwad er amddiffyn y gweiniaid, yr amddifaid, a'r rhai a orthrymir yn y byd pechadurus hwn. "Agor dy enau dros y mud yn achos holl blant dinystr, agor