Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/326

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dy enau, barn yn gyfiawn, a dadleu dros y tlawd a'r anghenus." Dyma a ddywed yr Arglwydd wrth bob dyn, ac yn enwedig wrth ei weision cyhoeddus. "Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel pe baech yn rhwym gyda hwynt." "Bum newynog a rhoisoch i mi fwyd, noeth a dilladasoch fi; bum glaf, ac ymwelsoch a mi; yn ngharchar, a daethoch ataf.” Yn mhersonau pwy y bu Iesu Grist yn yr amgylchiadau yna? Y mae yn ateb ei hun, yn mhersonau ei "frodyr lleiaf;" a phwy yw "brodyr lleiaf” ein Harglwydd yn y dyddiau hyn, onid y rhai sy'n ofni ei enw yn y gaethglud fawr o fewn ein gwlad? a phwy a ddylai eu cofio, dadleu drostynt, ac amddiffyn eu hachos, oni ddylem ni wneyd, anwyl frodyr yn yr efengyl? Diau y dylai pob dyn amddiffyn cam y gweiniaid a'r gorthrymedig; ond y mae rhyw beth neillduol yn natur ein swydd ac yn yr ymddiried a roddwyd ynom gan ein Harglwydd, yn galw ar ein bod ni yn llefaru drostynt pe b'ai pawb eraill yn tewi.

4. Gweinidogaeth y gair yw y brif offerynoliaeth a ddefnyddir gan Dduw yn mhob oes i ddileu trefniadau gorthrymus, y rhai a safant ar ffordd llwydd ei achos a Iles ysbrydol a thragywyddol eneidiau dynion. Eglwys Dduw yw y Gymdeithas er diwygiad moesol (moral reform society) benaf ar y ddaear, ac y mae i fod felly yn mhob ystyr dirwest, diweirdeb, rhyddid, addysgiadau Sabbothol i'r "oes a ddel "—yr holl bethan hyn a gyfansoddant faesydd i eglwys Dduw i weithredu ynddynt i ddwyn y byd i'w le, i ddadymchwelyd teyrnas y fagddu, ac i gael llafur enaid Iesu tuag adref; ac ynddynt oll y mae gweision cyhoeddus yr Arglwydd Iesu i flaenori. Hwy mewn gwirionedd a fu-