Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/329

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd gorseddfainc Jeroboam fab Nebat, ac Ahab, ac Ahaziah, a Herod, a Nero, a llawer o'u bath a welir eto yn estyn eu teyrnwialen dros eu deiliaid gorthrymedig.

"Yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith." Nid oes un rheol yn deilwng o'r enw "cyfraith," pwy bynag fyddo ei hawdwr—pa un bynag ai Ymerawdwr ar ei sedd unbenaethol, ai gwerinwyr mewn cydgyngorfa—nid yw yn deilwng o'r enw anrhydeddus "cyfraith," heb ei bod yn rheol uniawn a daionus. Dyna y rheolau a deilyngant yr enw "cyfraith," sef y rhai a amcanant at degwch a llesiant y deiliaid, ac a gyd-agweddant âg egwyddorion cyfraith yr Arglwydd. Ond y mae llawer i'w cael, fel y nodir yma, yn llunio anwiredd "yn lle cyfraith." Cyfyngwn ein sylwadau at y caethiwed Americanaidd, fel y mae yn dwyn y nodweddiad hwn. Sylwn,

I. Fod y testyn hwn yn ddarluniad priodol o'r trefniant caeth, fel y mae yn bodoli yn ein gwlad.

"Gorseddfainc anwiredd ydyw." Nid ar egwyddorion gwirionedd a thegwch y mae y gallu caeth yn sylfaenedig. Nid oes hawl gyfiawn gan un dyn i ddal perchenogaeth mewn dyn arall. Mae cymeryd meddiant o ddyn fel pe byddai yn anifail direswm yn "anwiredd," oblegid nid anifail direswm ydyw y mae yn meddu ar reswm, yn meddu ar enaid anfarwol, ac nis gellir ei amddifadu o'i hawl i ymddwyn fel bôd rhesymol, heb filwrio yn erbyn egwyddorion tragywyddol gyfiawnder a gwirionedd.

"Llunio anwiredd yn lle cyfraith" a wneir i gynal i fyny y gallu caethiwol. Ymchwiliad i'w ansawdd a'r modd y mae yn cael ei ddwyn yn mlaen a ddengys hyny yn eglur,