Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/330

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae y dyn ei hun yn cael ei ladrata, ac y mae ffrwyth ei lafur am ei oes yn cael ei ladrata. Ni fedd y caeth was ddimeiddo y meistr ydyw yr hyn oll ag ydyw a'r hyn oll a enilla. Pleidio dros gaethiwed ydyw pleidio dros ladrad yn y ffurf waethaf y bodola lladrad yn mhlith trigolion llygredig y ddaear. Lladron dynion" y mae yr Arglwydd yn ei air yn galw caeth—ddalwyr a chaethfeistri, a cheir eu henwau yn y rhestr dduaf o ddrwgweithredwyr o fewn Llyfr Duw. 1 Tim. 1: 9, 10, "Gan wybod hyn, nad i'r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i'r rhai di—gyfraith ac anufudd * * * i buteinwyr, i wryw-gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr," &c.

2. Mae y gosodiadau a wneir i amddiffyn caethiwed yn dinystrio y drefn deuluaidd, yn mhlith y miliynau a ddelir yn y caethiwed. Y cysylltiad teuluaidd ydyw y cysylltiad mwyaf cysegredig a fedd dynoliaeth. Nid oes dim mewn bod ag y mae deddfau Duw wedi codi cymaint o amddiffyniad iddo ag ydyw y cysylltiad teuluaidd. Mae'r wraig yn eiddo y gwr a'r gwr yn eiddo y wraig, ac nis gall neb gyffwrdd a'r cysylltiad hwn heb daro yn erbyn gorseddfainc y nef. Mae y rhieni i olygu dros eu plant a'u dwyni fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Mae ar bob priod a thad rwymau i amddiffyn purdeb ei wraig a phurdeb ei ferch, yn fwy na'i fywyd naturiol ei hun. Ond y mae y gosodiadau caeth yn llwyr ddadymchweliad ar y cysylltiad teuluaidd yn ei holl ranau―nid oes hawl gan y gwr i'w wraig, na chan rieni i'w plant—ac