Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/331

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1. Y mae y gosodiadau a wneir i gynal ac amddiffyn caethiwed yn osodiadau i gynal ac amddiffyn lladrad, a hyny yn yr ystyr waethaf.

nid yw bodolaeth y drefn deuluaidd yn cael ei chydnabod mwy na bodolaeth y cyfryw drefn yn mhlith anifeiliaid y maes—ac os nad yw hyn yn llunio anwiredd yn lle cyfraith, nis gwyddom pa beth sydd. Yn yr ystyr yma y mae y caethiwed Americanaidd yn rhagori mewn anfadrwydd a ffieidd—dra ar gaethiwed pob oes a gwlad arall ar y ddaear. Caethiwed yr Aipht, yn nyddiau Pharaoh greulon, ni chyffyrddai â'r cysylltiad teuluaidd. Y caethiwed Rhufeinaidd a gydnabyddai y cysylltiad hwn. Serfdom Rwssia ni chyffyrddai â'r berthynas deuluaidd. A dywedir fod caeth—ddalwyr Pabyddol Brazil yn dechreu gosod symudiadau ar weithrediad i atal ysgariad teuluoedd eu caethion.

3. Mae y gosodiadau a ffurfir i amddiffyn caethiwed yn gwadu hawl dyn i ddiwyllio ei feddwl fel bôd rhesymol. Y meddwl yw rhan benaf dyn. Yr enaid yw y meddwl, ac yn ol trefn Duw y mae ar bob dyn rwymau i ddiwyllio a dysgyblu ei feddwl, a lleshau ei enaid. O! gymaint o foddion a drefnodd Duw i ddyn i leshau ei enaid!—moddion cynyddu mewn gwybodaeth—moddion cynyddu mewn rhinwedd a phurdeb—moddion dynol—moddion dwyfol—moddion mewn rhagluniaeth—moddion efengyl y bendigedig Dduw. Y meddwl yw y rhan angylaidd o ddyn, dyma y rhan sydd yn ei debygoli i angylion Duw, ac i Dduw ei hun! Ond y mae y trefniant caeth yn ei osod dan yr anfanteision mwyaf gyda golwg ar ddiwyllio ei feddwl, ac enill ei lesiant penaf, gyda golwg ar y byd hwn a'r hwn a ddaw. Yn hyn yr ymddengys un o nodweddion gwaethaf y trefniant caeth. Ymddifadai y dyn o'i ddynoliaeth—a blotiai ymaith (pe