Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/332

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byddai modd) ei ysbryd anfarwol—i'w wneuthur yn anifail cyfleus i wasanaethu y dyn gwyn! Ai nid llunio anwiredd yn lle cyfraith yw hyn?

4. Mae y gosodiadau a ffurfir i amddiffyn caethiwed yn sefyll rhwng dyn a'i dragywyddol iachawdwriaeth. Yr efengyl yw moddion iachawdwriaeth. "Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragywyddol, a hwynthwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi." "Melusach yw dy air na'r mêl, ac na diferion y diliau mêl"—" gwerthfawrocach na miloedd o aur ac arian " —" ynddynt hwy y rhybuddir dy was, ac o'u cadw mae gwobr lawer." Ond y mae y caethwas, yn y rhan amlaf o'r Talaethau caeth, yn cael ei wahardd i chwilio yr Ysgrythyrau. Gosodir dirwyon trymion a charchariad ar y rhai a gynygiant ei addysgu i adnabod llythyrenau enw ei Geidwad! Fel hyn tuedda y trefniant caeth, nid yn unig i'w ysbeilio o ddedwyddwch penaf y bywyd presenol, ond o unig foddion ei ddedwyddwch tragywyddol. "Gorseddfainc anwiredd" yn wir ydyw a "llunio anwiredd yn lle cyfraith" a wneir i geisio ei ategu a'i gynal.

5. Mae y trefniant caeth yn niweidio ei bleidwyr. Nis gall dyn niweidio ei gyd—ddyn heb wneyd rhyw niwed ar yr un pryd iddo ei hun. Mae y caethfeistri yn gwneyd y niwed mwyaf iddynt eu hunain, trwy dynu euogrwydd ar eu cydwybodau, a thrwy feithrin ynddynt eu hunain dymerau hunanol, arglwyddaidd, a nwydwyllt. Gwna bodolaeth y trefniant hwn y niwed mwyaf i foesau eu plant, trwy y dygiad i fyny a gânt mewn llygredigaethau nas gellir yn hawdd eu darlunio, a thrwy feithrin ynddynt yr un ysbryd ag a