Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/333

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

welant yn llywodraethu eu rhieni. Effeithia yn fawr ar ysbryd y wlad lle y bodola, mewn barbareidd-dra a chreulonder—ac ni edy neb o'i bleidwyr heb niwed, a hyny yn llawer mwy nag y maent yn ymwybodol o hono eu hunain.

II. Mai y ffurf waethaf o ddal i fyny ddrygau moesol neu osodiadau pechadurus mewn gwlad ydyw eu hamddiffyn trwy ddeddfau dynol.

Pleidwyr caethiwed a ddywedant na ddylem wrthwynebu y trefniant hwn, oblegid mai un o sefydliadau y wlad ydyw, a'i fod yn sefydliad cyfreithlawn yn y wlad, trwy fod y gyfraith wladol yn ei amddiffyn. Yn awr sylwn, (1.) Nid yw y Cyfansoddiad cyffredinol yn ei amddiffyn—nid yw yn ei gynwys nac yn ei bleidio. Gofalwyd wrth ffurfio y Cyfansoddiad i beidio gosod y geiriau caethwas na caethiwed o'i fewn. Yr oedd caethiwed yn bod yn y wlad pan ffurfiwyd y Cyfansoddiad, ac y mae ynddo osodiadau a gydnabyddant ei fodolaeth, ond nid oes gair ynddo yn bleidiol i gaethiwed, nac yn gofyn am ei barhad oesol yn y wlad. Dilewyd caethiwed mewn aml un o'r Talaethau ar ol ffurfiad y Cyfansoddiad, heb gyfnewid dim ar y Cyfansoddiad ei hun, a gellid ei ddileu yn gwbl o'r wlad oll heb gyfnewid gair yn y Cyfansoddiad. Ond eto yn (2.) Y mae cyfreithiau yn bodoli o fewn ein gwlad sydd yn ei bleidio―cyfreithiau a ffurfiwyd gan y Gydgyngorfa, megys cyfraith y caeth ffoedig a ffurfiwyd yn 1850—yn gystal a chyfreithiau y caeth—dalaethau eu hunain. Yn awr ceisiwn brofi y gosodiad uchod, sef mai ceisio cynal trefniadau pechadurus trwy gyfreithiau dynol ydyw y ffurf waethaf o gyflawni pechod.