Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/334

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1. Y mae cynal drygau moesol neu osodiadau pechadurus trwy ddeddfau dynol yn gosod awdurdod ddynol i wrthsefyll yr awdurdod ddwyfol, megys pe byddai dyn yn ogyfuwch a Duw—ïe megys pe byddai dyn yn uwch na'i Greawdwr, mewn teilyngdod ac mewn awdurdod. Ac felly y gwneir yn yr achos hwn. Duw a ddywed, "Na orthryma yr amddifad a'r weddw, na'r dyeithr a fyddo o fewn dy byrth;" ond y dyn a ddywed, Gwnaf orthrymu yn ol fy mympwy fy hun—er fod fy Nghrewr yn fy ngwahardd, mynaf ddeddfau o'm heiddo fy hun i wrthsefyll ei ddeddfau Ef. Geilw gynadleddau, cynulla Gydgyngorfäau, ac yn y cynadleddau a'r Cydgyngorfäau hyny, ffurfia ddeddfau er dileu a diddymu, pe gallai ddeddf dragywyddol Duw.

2. Mae cynal drygau moesol trwy ddeddfau dynol yn amcanu at osod doethineb ddynol i ragori ar ei ddoethineb Ef. Mae deddfau Duw yn argraffiadau o'i ddoethineb, sef o'i ddeall anfeidrol i wybod yr hyn sydd oreu, ac o'i ddaioni anfeidrol i ddewis yr hyn sydd oreu. A phan y mae dyn yn ffurfio deddfau croes i'w ddeddfau ef, y mae megys yn dweyd, Na, mi wn i yn well nag Efe beth ddylai fod, ac y mae genyf galon well na'r eiddo Ef i ddewis yr hyn a ddylai fod! Dyna ysbryd y deddfau caeth a'r trefniadau gorthrymus a bleidir o fewn ein gwlad, ac a amcenir y dyddiau hyn, trwy rym y cleddyf, i helaethu eu dylanwad a'u hawdurdod.

3. Mae cynal drygau moesol trwy ddeddfau dynol yn heriad beiddgar ar allu barnol Duw i gosbi am bechod. Mae deddfau Duw yn wastad yn cynwys bygythiad o ddwyfol farn am anufudd—dod. Nid yw y bygythiad bob amser i'w gael mewn cynifer o eiriau,