Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/335

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eto y mae i'w ddeall. "Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynag fyddo ai da ai drwg." Gosod deddfau i amddiffyn yr hyn y mae Efe yn ei wahardd, ydyw herio yn gableddus ei allu i gosbi.

4. Trwy hyn, amcenir gwisgo pechod â math o urddas, neu â'r hyn a gydnabyddir megys urddas gan ddynion. Hyn a gefnoga weithredwyr drygioni yn eu drygioni. Dylai urddas berthyn i bob cyfraith, ac y mae cyfreithiau cyfiawn a daionus yn urddasol ac yn teilyngu parch. Yn awr, pan y ffurfir deddfau gan ddynion i amddiffyn gosodiadau llygredig a drygionus, y mae yn dra anhawdd darbwyllo y rhai a weithredant yn ol y deddfau hyny eu bod yn gwneuthur drwg ac y dylent ymwrthod â'r cyfryw. Mor anhawdd ydyw darbwyllo y rhai a fasnachant yn y diodydd meddwol (er engraifft) eu bod yn gweithredu mewn gorchwylion drygionus, trwy demtio eu cymydogion i yfed a meddwi, a thrwy gynorthwyo i'r holl dlodi a'r gofidiau cartrefol, a'r drwg—weithredoedd a gyflawnir mewn cyssylltiad â'r fasnach hono! A phaham hyny? Am fod y gorchwyl dan nawdd y gyfraith wladol—mae'r gyfraith wedi gwisgo y gorchwyl â math o urddas, fel y mae dynion yn gweithredu ynddo heb un gradd o gywilydd. Felly yn y gorchwyl o fasnachu mewn dynion, yr hyn sydd fil gwaeth a mwy cywilyddus na'r fasnach feddwol. Y gorchwyl hwn a wisgir ag anrhydedd y gyfraith, ac y mae y slave—trader, wrth fyned o amgylch o blanhigfa i blanhigfa i ymofyn am ei nwyddau dynol, i brynu merched ieuainc i ddybenion trythyll (pa wynaf goreu i gyd) mor uchel ei ben ac mor ddigywilydd a'r porthmon