Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/336

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd yn prynu ac yn gwerthu anifeiliaid! Amddiffyniad y gyfraith a dyn ymaith bob teimlad o warth a chywilydd oddiar ei feddwl.

5. Mae y cam a wneir trwy ddrygau moesol a amddiffynir mewn gwlad gan ddeddfau dynol, yn effeithio yn helaethach, a'r effeithiau hyny yn cyrhaedd mwy o bersonau, na phe byddai y cyfryw ddrygau wedi eu gadael heb ddeddfau dynol i'w hamddiffyn. Golygwn y drwg o ladrata eiddo un dyn gan ddyn arall, neu unrhyw ddull o orthrymu, megys fod y cyfoethog yn gorthrymu y tlawd trwy ei orfodi i lafurio ei dir heb ei gydnabod mewn cyflog—neu unrhyw ddrygau eraill—gadawer y drygau hyny i ymladd eu ffordd yn mhlith dynolion, heb gyfraith i'w hamddiffyn, ac nis gallant effeithio cymaint o niwed na chyrhaedd cynifer o wrthddrychau, a phan y ffurfir cyfreithiau dynol i'w hamddiffyn. Pa fodd y mae cynifer a phedair miliwn o lafurwyr ein gwlad (yr hyn a gynwys bron y seithfed ran o'r holl drigolion) yn cael eu dal dan y fath orthrwm gan ychydig filoedd o gaethfeistri? Pa fodd y llwyddir i allu gwneyd hyny? Deddfau dynol a ffurfir i amddiffyn y drwg—llunio anwiredd trwy gyfraith a wneir, ac felly y cynyrchir y fath effeithiau.

6. Lle y byddo cyfreithiau dynol yn cael eu ffurfio i amddiffyn drygau moesol—bydded y drygau hyny mor ysgeler ag y byddont—y mae holl allu y wlad yn cael ei alw i amddiffyn y drygau hyny. Mae hyn yn gwbl amlwg, oblegid y mae y cleddyf bob amser yn llaw y Llywodraethwr i roi cyfreithiau y wlad mewn gweithrediad. Nid yw y Llywodraethwr yn dal y cleddyf yn ofer yn y peth hwn——beth bynag fyddo y