Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/337

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deddfau, y cleddyf a'u hamddiffynant. Os y ddeddf a ddywed, bwrier i ffau y llewod y gwr a archo arch gan Dduw na dyn am ddeg-diwrnod-ar-hugain, hyny a wneir. Os y ddeddf a ddywed, bwrier i'r ffwrn dân wedi ei phoethi saith boethach nag erioed "y dynion na phlygant i'r ddelw aur a gyfodais," hyny a wneir. Yn awr, edrychwn ar ein sefyllfa ninau fel gwlad—onid yw yn arswydol meddwl fod gan ddynion tywysogaidd yn ein gwlad gymaint o rym i orthrymu eu cyd-ddynion ag sydd? Mae y caeth feistri Americanaidd wedi bod hyd yn awr mewn sefyllfa i allu hawlio holl alluoedd y wlad, y fyddin a'r llynges, i'w hamddiffyn yn eu hegwyddorion a'u gweithrediadau gorthrymus. Y Llywydd a'i Gyfringyngor, y Senedd a'r Uchaflys, oeddynt hyd yn ddiweddar, ac ydynt i raddau eto, at eu gwasanaeth, i gynal yr hyn a alwant yn "iawnderau y De"—sef y caethiwed mawr Americanaidd, ac i barhau a chadarnhau y drygioni hwn——a hyny yn unig am fod deddfau dynol o'u gwneuthuriad eu hunain mewn bod i'w pleidio!

7. Mae y cyfrifoldeb o ffurfio cyfreithiau annheg ac anghyfiawn yn gorphwys (mewn gwerinlywodraeth fel yr eiddom ni) ar laweroedd. Mae'r wlad yn euog ger bron yr Arglwydd yn y peth hwn—nid y De yn unig, ond y Gogledd hefyd. Mae y gallu caeth wedi ei fudddyoddef a'i amddiffyn yn hir, a ninau yn gwybod na ddylasai hyny fod. Euog, ac euog iawn ydym am orthrymu o honom y gwan a'r amddifaid—ein cydwybodau a'n cyhuddant, a'r byd yn gyffredinol a'n cyhudda am "lunio o honom anwiredd yn lle cyfraith." Sylwn yn

III. Nas gall y cyfryw orthrwm dderbyn un cym-