Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/338

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eradwyaeth oddiwrth yr Arglwydd. "A fydd cyd-ymdeithas i ti a gorseddfainc anwiredd?" &c.

Mae y gofyniad yn cynwys dau beth, sef yn gyntaf nas gall yr Arglwydd ei gymeradwyo—ac yn mhellach ei fod ei ffieiddio i'r graddau pellaf. Ychydig o sylwadau yn fyr a wnawn ar hyn.

1. Mae cymeriad glan y Jehofa, fel Bôd cyfiawn a sanctaidd, y fath fel nas gall roddi un cymeradwyaeth i orthrwm nac anghyfiawnder yn neb. Yr ydym yn gwybod gyda sicrwydd am rai dynion, nas gallant gymeradwyo yr hyn sydd ddrygionus, a hyny oddiar y wybodaeth flaenorol sydd genym am eu cymeriad. Pe dywedai rhyw un wrthym am ddyn ag y byddai genym dyb uchel am ei egwyddorion cyfiawn, ei fod yn cymeradwyo tro gwael, isel ac anghyfiawn cymydog iddo at wr tlawd, neu at weddw neu blentyn amddifad yn yr ardal—dywedwn yn uniawn, Na, nis gall hynyna fod, yr wyf yn adnabod y gwr yn rhy dda i allu goddef y dybiaeth wael yna am dano. Felly yr ydym ninau, hyderaf, yn adnabod yr Arglwydd yn rhy dda, oddiar y wybodaeth sydd genym am ei gymeriad cyffredinol, i allu meddwl y bydd iddo ef gymeradwyo gwaith dynion yn gorthrymu eu cyd-ddynion, a'r fath orthrymder a gynwysir yn y gaeth-wasanaeth a'r gaethfasnach. "Duw'r gwirionedd ac heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe." Gelwir ef y "Sanct a'r Cyfiawn." "Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd." "A fydd cyd—ymdeithas i ti," &c. Anmhosibl yw i hyny fod iddo Ef.

2. Mae uniondeb a thegwch ei ddeddfau Ef yn eu holl ranau yn dangos nas gall Efe gymeradwyo gwaith