Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/339

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neb yn llunio deddfau anwir a gosodiadau gorthrymus. Deddf Duw a gynwysir mewn un gair, sef cariad. "Cyflawnder y gyfraith yw cariad." "Ceri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, ac a'th holl enaid, ac â'th holl feddwl." Hwn yw y cyntaf a'r gorchymyn mawr yn y gyfraith. A'r ail sydd gyffelyb iddo, medd ein Hiachawdwr, "Câr dy gymydog fel ti dy hun." "Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl gyfraith a'r prophwydi yn sefyll." Ni ddaeth un gair erioed o'i orseddfainc ef ond a gyd—orwedda gyda y cysonedd mwyaf â'r gyfraith yna. Ac nid yw yn ddichonadwy i Fôd ag y mae ei orchymynion oll yn codi oddiar y fath egwyddor, gymeradwyo dim sydd yn orthrymus ac anghyfiawn yn neb o'i greaduriaid.

3. Mae y barnedigaethau arswydol â pha rai y mae yr Arglwydd wedi ymweled â thrigolion ein byd ni, o oes i oes, am y pechod o orthrymu, yn dangos nad yw Efe yn ei gymeradwyo. Gorthrymu y rhai rhinweddol a'r gweiniaid oedd un o'r pechodau a ddygodd y dylif mawr ar y byd. "Byd y rhai anwir" y geilw yr apostol y byd y pryd hwnw. "Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noë, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y diluw ar fyd y rhai anwir." 2 Pedr 2: 5. Diau i'r addfwyn Enoch ddyoddef llawer am ddwyn ei dystiolaeth yn erbyn yr anwir ddynion, cyn i Dduw ei symud ef—a Noë yr un modd. Gorthrwm ac anllad a ddygodd y gawod o dân a brwmstan ar Sodom a Gomorrah yn nyddiau Lot. Gorthrymu meibion Israel a'u dal mewn caethiwed a ddygodd y deg plâ ofnadwy hyny ar Pharaoh a'i luoedd, y darllenwn am danynt yn hanes y waredigaeth o'r Aipht. Deddfau gorthrymus oedd