Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/340

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deddfau Belsassar, pan ollyngodd Duw luoedd y Mediaid a'r Persiaid yn rhydd arno i'w ddarostwng a dinystrio ei lywodraeth. Felly y mae hanes y byd yn profi mai un o'r prif achosion yn mhob oes—ïe, y prif achos—o farnau amlwg odddiwrth Dduw ar deyrnasoedd a gwledydd y ddaear, ydoedd y pechod o orthrymu y gweiniaid a'r angenus. Nis gall Duw, gan hyny, awdwr y barnedigaethau hyn, gymeradwyo dim sydd yn orthrymus. Dywedwn un gair eto,

4. Bydd gweinyddiadau tragwyddoldeb yn profi hyn. Y rhai rhinweddol, addfwyn, tirion wrth eraill, fydd teulu y nef—y rhai cyfiawn tuag at Dduw, a chyfiawn at dynion a gyrhaeddant y fro ddedwydd hono. "Nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd,” &c. A phwy fydd y rhai colledig? Dyma yw iaith y Beibl, "Eithr i'r rhai sydd gynhenus ac anufudd i'r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint.' Rhuf. 2: 8. A thrachefn, "Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o'r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal gwirionedd mewn anghyfiawnder." Rhuf. 1: 18. A thrachefn, "Ond i'r rhai ofnog, a'r digred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan; yr hwn yw yr ail farwolaeth." Bydd y ddwy sefyllfa byth yn dangos na bu iddo ef erioed gymdeithas â'r hyn sydd orthrymus ac anghyfiawn.

SYLWADAU TERFYNOL.

1. Dysgwn oddiwrth hyn i ymostwng ger bron yr Arglwydd o herwydd pechod dirfawr ein gwlad. Nid