Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/341

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oes gwlad ar y ddaear ag a ddylai wybod yn well am werth rhyddid na'r Talaethau hyn, ac eto yma y coleddir ac y coleddwyd dros hirfaith amser y gorthrwm mwyaf.

2. Dysgwn ryfeddu y dwyfol amynedd ei fod wedi ein goddef cyhyd, heb ymweled â ni â barnedigaethau. Nid y rhyfeddod yw fod y wlad yn sathrfa i'n gelynion; ond y rhyfeddod mwyaf o lawer ydyw na buasai barnedigaethau o ryw natur oddiwrtho Ef wedi disgyn arnom er's blynyddau lawer. Ei drugaredd a'i amynedd tuag atom sydd wedi bod yn fawr yn wir.

3. Diolchwn fod y wlad yn teimlo yn yr achos hwn, ac yn dechreu gweled yn lled gyffredinol mai dyma a barodd ein trallod presenol. Bu digywilydddra y bradwyr yn eu symudiadau yn foddion i oleuo y wlad, er mai da fuasai ganddynt ei gelu pe gallasent. Bron na ddywedent wrth alluoedd tramor eu bod gymaint am ryddhau y caethion a neb, tra y mae pob symudiad o'r eiddynt gartref yn dangos mai cadarnhau y fasnach a helaethu ei therfynau oedd eu hunig wrthddrych. Ond y mae gobaith am danom, tra y mae y wlad mor agos ag ydyw at fod yn unllais, mai dyma yr achos o'n terfysg a'n trallod.

4. Diolchwn fod rhwymau anwiredd yn dechreu llacio, a deddfau anwiredd yn dechreu cael eu dileu. Mae ein prif ddinas yn dir rhydd, ac y mae yr holl diriogaethau, trwy Ogledd a De yn dir rhydd. Diolchwn am hyny.

5. Ceisiwn gydnabod llaw yr Arglwydd yr hwn yn unig a all ein diogelu a pheri i ni ymwared yn nydd ein cyfyngder. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear, llawenyched ynysoedd lawer"