Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/342

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymddengys rhai pethau, yn y cyfwng mawr hwn, fel pe byddai yr Arglwydd yn ein herbyn. Ond nid yw efe felly-ond ceisio ein dwyn i weled ein sefyllfa y mae a'n dwyn i wneyd cyfiawnder â'r gorthrymedig, fel y gallo yn ol egwyddorion ei lywodraeth ddaionus, roddi i ni waredigaeth-ïe, y fath waredigaeth ag a fyddai yn fendith i Dde a Gogledd yn nghyd.

DYFYNIADAU O BREGETH II

Eph. 1: 10.—"Fel yn ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhôi yn nghyd yn Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear ynddo ef."

Mae yr apostol yn traethu yn yr adnodau blaenorol ar fwriadau Duw neu ei arfaeth." Mae arfaethu neu fwriadu yn cael ei briodoli yn fynych i Dduw ; ac y mae ei arfaeth ef yn bod y peth ydyw, "yn ol boddlonrwydd ei ewyllys" ei hun, ac "yn ol cyfoeth ei ras," ac y mae hefyd yn "arfaeth dragywyddol." Ond dylid gwylio rhag cysylltu dychymygion disail âg arfaeth Duw. Cam olwg ar ei arfaeth ef ydyw ei hystyried yn cynwys y drwg fel y da—nid yw yn cynwys dim drwg moesol-nid o Dduw y daeth fod drygioni yn cael ei gyflawni. Sonir weithiau am yr Arglwydd fel pe buasai wedi bwriadu i bechod gymeryd lle, ac wedi bwriadu hefyd i ddatguddio trefn o waredigaeth oddiwrth bechod, fel pe byddai y melus a'r chwerw yn tarddu o'r un ffynon. Ond nid yw Duw yn awdwr pechod―ac nid yw bodolaeth pechod yn un rhan o’i drefn ef—mae ei holl drefn ef, ei holl fwriadau a'i holl weithrediadau yr gwrth-weithio yn erbyn pechod yn mhob ystyr ac yn mhawb. Yn ol ei hollwybodaeth