Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/343

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fe ganfyddodd y byddai i bechod gymeryd lle, ac yn ol ei haelfrydedd anfeidrol—ei gariad diderfyn--fe drefnodd ffordd o waredigaeth oddiwrth bechod, a'r ffordd hono ydyw yr un a ddatguddir i ni ac a gymhellir arnom i'w defnyddio trwy ffydd ddiffuant yn efengyl ein Harglwydd Iesu Grist. Yn y testyn dangosir yr amcan neu y dyben oedd gan Dduw i gyrchu ato yn ei fwriadau grasol a thragywyddol, sef, “Fel yn ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd y gallai grynhoi yn nghyd, yn Nghrist, yr holl bethau," &c. Sylwn,

I. Ar y gwaith a briodolir yma i Dduw, "crynhoi yn nghyd yr holl bethau yn y nefoedd ac ar y ddaear." Ymadrodd cyfoethog iawn! Nid yw yn hawdd, efallai, i'w ddeall, ar y darlleniad cyntaf. Ond nid yw yr ymadrodd yn dywyll ond i ni ystyried ychydig -beth oedd eisiau eu crynhoi at eu gilydd? Yr oedd pechod wedi gwneyd rhyw ysgar mawr rhwng nefoedd a daear. Yr oedd dyn yn y dechreu, sef yn ei greadigaeth cyntaf, yn meddu yr un cymeriad a theulu y nef-yn gydymaith i Dduw ac i angelion Duw; ond fe wnaeth pechod ryw annhrefn mawr ar bethau ryw chwalfa-ryw ysgar rhyfedd-ysgarodd ddyn oddiwrth Dduw, dynion oddiwrth angelion, yn gystal a dynion oddiwrth ddynion. Ond wele y Duw graslawn a thrugarog, o'i ddaioni hunan-gynhyrfiol a’i ddoethineb anfeidrol, yn myned i adferu trefn eilwaith -trwy godi y dyn i gymeriad a thebygoliaeth i deulu y nef. Dyma ddyben yr efengyl, a dyben holl waith y prynedigaeth.

1. Uno y nef a'r ddaear yn yr un gorchwylion. Os gofynir beth yw gorchwylion teulu y nef, gellir at