Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/344

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eb mai dyna yw—gogoneddu Duw a dedwyddoli eu gilydd. Dyna orchwylion y nef, a dyna amcan y teulu glân yn eu holl symudiadau a'u gweithrediadau. Maent yno yn addoli Duw, yn ymgrymu iddo, yn bwrw eu coronau wrth ei draed, yn ymwrando beth yw ei ewyllys ef, ac yn gyflym a llon i'w chyflawni. Ceuir allan bob hunanoldeb annheilwng o'r gymdeithas ddedwydd sydd yno. Gwasanaetha pob angel ei Dduw trwy geisio hefyd at eangu dedwyddwch ei gyd-angel a'i gyd-sant, fel ei ddedwyddwch ei hun. Gwahanol iawn ydyw i hyn ar y ddaear, hyd nes y daw yr efengyl i wneyd trefn ar ddyn. Edrychwn ar y pethau sy'n cynhyrfu ein hardaloedd yn y dyddiau presenol. Ai gogoniant Duw a lles y wlad sydd gan bleidwyr y ddiod feddwol mewn golwg yn eu symudiadau prysur ac egniol? A'i dyma amcanion y gaethfasnach yn ymestyn at eangu ei therfynau dros ein tiriogaethau breision? Sarhad ar synwyr cyffredin dyn fyddai dyfalu y fath beth—hunan-elw arianol a phorthi chwantau a nwydau llygredig sy'n cynhyrfu i'r pethau hyn oll—a dyma agwedd y byd yn gyffredinol, oddieithr i'r graddau ag y mae yr efengyl yn dylanwadu yn ddaionus arno. Ond yr efengyl a gyfyd ddyn at yr un gorchwylion a theulu y nef.

"I'm gogoniant y creais ef, y lluniais ac y gwnaethum ef." "Y bobl hyn a luniais i'm fy hun, fy moliant a fynegant." "Pa un bynag ai bwyta ai yfed, ai pa beth bynag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw." A phob un a wasanaetha ei frawd hefyd, er lleshad; a'n brodyr, mewn ystyr, yw pawb dynion ar wyneb y ddaear.

2. Uno y nef a'r ddaear yn yr un egwyddorion, neu