Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/345

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddwyn trigolion y ddaear i weithredu oddiar yr un egwyddorion a theulu y nef. Yr egwyddor sy'n cymell teulu y nef yn ei holl weithrediadau yw cariad. Pe gofynid paham y maent yno yn gwneyd gogoniant yr Arglwydd yn brif ddyben yn mhob peth, yr ateb yw, am eu bod yn ei garu ef uwchlaw pawb a phob peth. Paham yr amcanant at ddedwyddoli eu gilydd mor hyfryd ac mor hardd? Yr ateb yw, am eu bod yn cael eu llywodraethu gan ddeddf cariad. Cariad yw cwlwm y gymdeithas yno. Dyma ddaliodd y nef gyda ei gilydd mor anwyl erioed, a dyma a'i deil byth hefyd. Felly, at hyn yr amcenir yn holl weithrediadau yr efengyl ar y ddaear. "Ceri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, â'th holl enaid, â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth; a'th gymydog fel ti dy hun. Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl gyfraith a'r prophwydi yn sefyll." A dyma elfen fawr yr efengyl—tardda hon o fôr cariad tragywyddol, gweithreda trwy gariad, a dwg y rhai a'i cofleidiant i ymddedwyddu mewn cariad at Dduw a dynion byth.

3. Uno y nef a'r ddaear yn yr un dymer a'r un ysbryd. Dyna yw ysbryd a thymer y nef—yn y lle cyntaf, ysbryd gostyngedig, llariaidd ac addfwyn yw. Mae yno bawb yn wirioneddol ostyngedig ac addfwyn. Ysbryd cynes yn ngwasanaeth eu Harglwydd ywneb yn oeraidd, neb yn glauar ei gân yno. Ysbryd unol ydyw cyd—weithio yn esmwyth y maent yno yn ngwasanaeth Iesu—heb neb yn "tynu yn groes"—mae yr undeb cywiraf yn bodoli yn eu gweithrediadau, a'r cydgordiad melusaf yn eu caniadau gogoneddus. Yn mhob peth, ysbryd anwylaidd iawn ydyw.