Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/346

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

At hyn hefyd, y mae yn amlwg, yr amcana yr efengyl yn ei dylanwad grasol a gwerthfawr ar ddyn ar y ddaear.

4. Dwyn trigolion y ddaear i wisgo yr un cymeriad cyffredinol mewn purdeb a sancteiddrwydd a theulu y nef. Maent yno yn sanctaidd ac nid oes yno ddim ond purdeb digymysg. Angelion "sanctaidd," ac ysbrydoedd y rhai "a berffeithiwyd" sydd yno yn preswylio. Yn awr, dyma y gwaith sydd gan Dduw i'w wneyd ar y ddaear trwy yr efengyl, cael y dyn yn sanctaidd. Dyma oedd dyben y bwriadau tragywyddol, "fel y byddem sanctaidd a difeius ger ei fron ef mewn cariad." Dyna ddyben dyoddefaint a marwolaeth y Gwaredwr. "Crist, fel y sancteiddiai efe y bobl, a ddyoddefodd y tu allan i'r porth.' A dyma ddyben holl foddion yr efengyl a dylanwadau yr Ysbryd ar ddyn ei gael yn ol i'r un cymeriad a'r rhai sy'n cylchynu yr orseddfaine lân fry.

5. Eu dwyn yn un teulu, yn un gymdeithas, ac i'r un lle. Pan y byddo y gwaith grasol wedi ei orphen, ceir gweled rhyw dyrfa hardd o'r hil ddynol yn cyfansoddi yr un tylwyth, yn yr un byd dysglaer, ac yn mwynhau yr un cyffelyb ddedwyddwch a'r angelion hyny y rhai a gadwasant eu dechreuad—ac felly y byddant byth yn ddi-fai ger bron gorseddfainc Duw. Cafodd Ioan olwg arnynt fel "pedair mil a saith ugeinmil" o bob llwyth o Israel, ac o'r cenedloedd, yn "dyrfa na ddichon neb eu rhifo," wedi "dyfod allan o wlad y cystudd mawr," ac "wedi golchi eu gynau a'u canu yn ngwaed yr Oen." O, ddedwyddwch y rhai a unir yn y teulu mawr hwn!

II. Cyfrwng yr uniad hwn, neu y Person yn yr hwn y dygir hyn oddiamgylch. Y mae , pwys mawr