Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/347

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn cael ei roi ar hyn y mae yn cael ei enwi ddwy waith yn y testyn, "Fel yn ngoruchwyliaeth, &c., y gallai grynhoi yn nghyd yn Nghrist," &c., a thrachefn, "ynddo ef." Mae holl ymresymiad yr apostol trwy y benod hon fel rhyw gadwyn auraidd, modrwy yn cydio mewn modrwy, ac oll yn Nghrist Iesu—fel y gall y darllenydd ganfod wrth ddarllen y benod o adnod i adnod. Enwir ef yn fynych ddwywaith yn yr un adnod. Ond sylwn,

1. Yr oedd nef a daear megys wedi cyd-gyfarfod yn mherson Crist―dwyfoliaeth a dynoliaeth wedi ymbriodi ynddo yn yr un Person gogoneddus. Yr oedd yn dal yr un agos berthynas â'r ddaear ac â'r nef. O ran ei Dduwdod, yr oedd yn ogyfuwch a'r Tad tragywyddol yn mhob priodoledd a theilyngdod; ac ar yr un pryd yr oedd yn ddyn, yn meddu teimladau dynol; "Yn gymaint a bod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfranog o'r un pethau." Felly yr oedd yn Berson addas i nef a daear gydgyfarfod ynddo.

2. Trwy rinwedd yr iawn a wnaeth efe dros ein camweddau y cafwyd modd i godi dyn i sefyllfa ddedwydd teulu y nef. Yr oedd dyn trwy bechod wedi haeddu cael ei gau i fyny yn y carchar tragywyddol gyda'r diafol a'i angelion. Ond fe gafwyd modd i faddeu ei feiau ar dir edifeirwch, a chafwyd modd i'r Ysbryd tragywyddol weithredu trwy yr efengyl arno nes ei gael yn bur.

3. Trwy ddylanwad geiriau Crist mewn cysylltiad â gweinidogaeth ei Ysbryd y dygir hyn oddiamgylch. Cyhoeddi Crist yn Waredwr i'r byd yw y moddion i'w achub. Efe sydd i fod yn destyn ein gweinidogaeth