Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/348

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—Crist yn ei berson a'i athrawiaeth, ei waith a'i ddyoddefiadau drosom—Crist yn ei deilyngdod a'i rinweddau, &c.; a chymell pawb i wneyd derbyniad o hono ac ufuddhau iddo; ac mewn cysylltiad â phregethu Crist yn ffyddlon a mynegu ei rinweddau trwy fucheddau teilwng y rhai a'i carent, y mae genym addewid o ddylanwadau a gweinidogaeth ei Ysbryd. "Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith," &c.

4. Dygir hyn oddiamgylch trwy ddylanwadau esiampl Crist. Fe ddaeth Crist i'r byd, nid yn unig i wneyd iawn dros bechod—dyna yn ddiau oedd y dyben penaf―ond fe ddaeth hefyd i roddi "esiampl i ni fel y canlynem ei ol ef." Fe ddaeth i ddangos i ni pa fath rai yw teulu y drydedd nef. Os mynech wybod pa ryw fath fodau sanctaidd sydd yno, edrychwch ar Fab Duw o Bethlehem i Galfaria—edrychwch ar ei sel dros dy ei Dad, ei burdeb di—frycheulyd, ei larieidddra, ei gariad, &c. Edrych arno trwy ffydd a byw yn ei gymdeithas ydyw un o'r moddion effeithiolaf i gael dyn yn ol i ddelw teulu y nef.

5. Trwy effeithioldeb eiriolaeth Crist drosom yn y nef. Mae pwys mawr yn cael ei osod yn yr Ysgrythyrau ar eiriolaeth Crist drosom fry. Mae'n eiriol dros arbediad y ddynoliaeth. "Gad ef y flwyddyn hon hefyd," &c. Y mae yn byw bob amser i "erfyn dros y saint"—dros eu gwaredigaethau, dros eu cynaliaeth, eu hadferiad o wrthgiliadau, a'u perffeithiad yn y diwedd mewn gogoniant, fel y caffont fod lle y mae efe, i'w weled yn ei ogoniant, a bod yn debyg iddo.

6. Bydd y cyfan yn terfynu yn nyrchafiad Crist fel canolbwynt serchiadau a chlodforedd saint ac angelion. Mae aberth Crist drosom ni wedi effeithio yn fawr yn