Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/349

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiau ar ddedwyddwch angelion Duw—pa mor fawr nis gallwn esbonio yn awr, ond cawn wybod yn well ar ol hyn. Bydd y teulu yn un yn rhoi y clodydd tragywyddol i Dad, Mab ac Ysbryd, a'r cyfan trwy ac yn nghyfryngdod Crist Iesu. A phan ddelo y teulu yn nghyd, o'r nef a'r ddaear, ceir gweled y pryd hwnw yn fwy eglur nag y gallwn ganfod heddyw pa fodd y crynhowyd yr holl bethau yn y nefoedd ac ar y ddaear "ynddo ef."

III. Y cyfnod neu yr amser y byddai i hyn gael ei ddwyn oddiamgylch, "Fel yn ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd y gallai," &c.

Wrth yr amseroedd hyn yn ddiau y golygir goruchwyliaeth a thymor yr efengyl—yr holl dymor, mewn ystyr, o roddiad yr addewid gyntaf hyd floedd yr archangel—ond yn arbenigol, y tymor presenol, yr oruchwyliaeth ddiweddaf o weinyddiad cyfamod grasol Duw tuag at ddyn, sef o ddyddiau ymddangosiad Crist yn y cnawd hyd ei ail ymddangosiad ar gymylau y nef. Dyma "oruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd." Sylwn yma,

1. Fod yr holl amseroedd blaenorol i ddyddiau Crist yn rhag—barotoawl i'r cyfnod hwn. Dyna oedd Duw mawr yn wneyd trwy yr holl oesoedd, parotoi y byd i dderbyn ei Fab—dyna a wnaed trwy yr aberthau cysgodol, trwy weinidogaeth y prophwydi, a thrwy farnedigaethau â pha rai y darostyngwyd teyrnasoedd uchelfrydig ac annuwiol—hyny oedd mewn golwg o hyd, parotoi y byd i orchwylion pwysig y cyfnod presenol.

2. Fe ymddangosodd Crist yn y cnawd yn yr amser mwyaf priodol—"yn nghyflawnder yr amser"—"Crist