Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/350

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn pryd, a fu farw dros yr annuwiol "—pan yr oedd pob moddion arall er gwellhau y byd wedi ei brofi yn annigonol, a'r byd wedi addfedu i ddinystr, a'r diafol yn dywysog arno, yn meddianu cyrph dynion yn gystal a gweithio ar eu meddyliau, nes oedd y byd mor addfed i farn ag ydoedd yn nyddiau'r dylif mawr yn yr adeg hono danfonodd Duw ei Anwyl fab iddo, a gosododd foddion mewn gweithrediad i achub, ac nid i ddamnio y byd.

ADDYSGIADAU.

1. Gwelwn fod yn rhaid i ryw waith mawr gael ei wneyd ar gyflwr dyn cyn y bydd yn gymwys i gael ei le yn mhlith teulu y nef, "Na ryfedda ddywedyd o honof fi wrthyt, y mae'n rhaid eich geni chwi drachefn." "Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o'r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw." Mae llawer yn byw yn y byd hwn, fel pe byddent yn dysgwyl i ryw oruchwyliaeth ddyeithr o eiddo angeu eu cymwyso i'r nef. Gwylia, enaid, rhag dy dwyllo dy hun yn hyn. "Yr hwn sydd yn hau i'r cnawd, o'r cnawd a fed lygredigaeth, a'r hwn sydd yn hau i'r Ysbryd, o'r Ysbryd a fêd fywyd tragywyddol."

2. Gwelwn anogaeth gref i ddychwelyd at Dduw trwy ffydd yn Nghrist, ac i ymofyn am le gyda ei deulu ef ar y ddaear. Pwy a unir â theulu y nef, meddych chwi, ond y rhai a unir, a hyny yn wirioneddol, â theulu Iesu ar y ddaear. Meithrinwn gariad cynes at deulu Duw yr ochr hon, ac ymbiliwn am gael ein cymhwyso i gael lle yn eu plith pan y byddant wedi eu perffeithio yn Nghrist Iesu.