Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/351

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHWYMEDIGAETH DYN I DDUW.

I. Y mae dyn yn rhwymedig i Dduw mewn cariad. Duw, cariad yw, a'r ddeddf a roddodd i ni a gynwysir yn y gair hwn, "Cyflawnder y gyfraith yw cariad." Cariad goruchafaidd at Dduw, a chariad at ein cymydog fel ni ein hunain—dyma gynwysiad y ddwy lech, a dyma yr oll o rwymedigaeth dyn i Dduw. Nid oes dim yn ofynedig arnom, na dim yn ofynedig ar un bôd rhesymol yn un man, dan unrhyw amgylchiadau, ond a dardd yn naturiol oddiar yr egwyddor anwylaidd hon, sef cariad. Mewn ystyr foesol, dyma ddeddf y bydysawd. Ac oddiar gariad at Dduw y tardd y rhwymedigaeth o ufuddhau iddo yn yr hyn oll y mae yn orchymyn, derbyn yn barodol yr hyn y mae yn gynyg o'i drugaredd a'i ras, ymddiried ynddo dan bob goruchwyliaeth, bydded mor dywyll a thrallodus ag y byddo, ac ymdrechu cymell ar eraill yr un rhinweddau.

II. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn tarddu oddiar ei berthynas greadigol â Duw. "Efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain, ei bobl ef ydym a defaid ei borfa." Perthynas yw sail pob rhwymedigaeth. Nid oes rhwymau lle nad oes perthynas, a lle mae perthynas, y mae rhwymau yn ol ansawdd y berthynas. Y berthynas fwyaf gwreiddiol a'r fwyaf cyflawn o bob perthynas ydyw yr un greadigol. Mae gan Dduw hawl ynom o flaen pawb eraill, a goruwch pawb, am mai ein Creawdwr ydyw. Mae ar ddyn rwymau i'w rieni, i "dalu y pwyth" iddynt, a "phwyth" go hir ydyw hefyd y berthynas sydd agos, a'r daioni a dderbyniwyd oddiar eu llaw, mewn sefyllfa o angen ac ym-