Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/352

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddibyniaeth, sydd fawr. Ond y mae ein rhwymau i Dduw yn fwy—ein hymddibyniaeth arno sydd fwy cyflawn, a'r daioni a dderbynir oddiar ei law sydd anfeidrol fwy. Mae ar ddeiliaid rwymau i'w llywodraethwyr, gweision i'w meistriaid, a'r angenus i'w cymwynaswyr, ond nid i neb y mae ein rhwymedigaeth fel i Dduw yr hwn a'n gwnaeth.

III. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn rhwymedigaeth o gyfrifoldeb, yn tarddu oddiar ei fod yn meddu ar fodolaeth resymol. Hyn sydd yn gwneyd dyn yn rhwymedig i Dduw mewn ystyr wahanol i bob bôd islaw iddo yn nghlorian bodolaeth. Dyma sydd yn ei wneyd yn ddeiliad cyfrifoldeb a barn. Nid yw y greadigaeth fwystfilaidd yn ddeiliaid cyfrifoldeb―y creaduriaid afresymol nid ydynt yn meddu cyneddfau priodol i wybod am Dduw, ei garu a'i wasanaethu. Nid yw y greadigaeth anianol yn meddu ar y cyneddfau hyn. Mae bodau anianol yn ddeiliaid deddfau anianol, ac yn ufuddhau i'r deddfau hyny i'r perffeithrwydd manylaf. Ond nid rhwymedigaeth o gyfrifoldeb sydd yn peri hyn; ond gweithrediad gallu anianol ac anfeidrol y Jehofa.

Mae dyn wedi ei gynysgaeddu â deall ac amgyffrediad, â serchiadau, âg ewyllys, â chof a chydwybod— cyneddfau, o ran eu hansawdd, cyffelyb i eiddo angel yn y nef—ac y mae ei rwymedigaeth yn tarddu oddiar ei fod yn meddu ar y cyneddfau hyn, Bôd rhesymol ydyw, mae dan rwymedigaeth o gyfrifoldeb am y defnydd a wna o'r cyneddfau hyn. Y mae yn gwybod y da a'r drwg, ac y mae dan rwymedigaeth o gyfrifoldeb i ddewis y naill ac ymwrthod a'r llall. Ei fodolaeth resymol yw un o seiliau cedyrn a thragywyddol ei rwymedigaeth a'i gyfrifoldeb.