Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/353

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn codi oddiar y gwiwdeb a'r teilyngdod a berthynant i'w briodoleddau anfeidrol a thragywyddol ef. Y mae efe yn fod mor ogoneddus, fel y mae yn deilwng o'r serch gwresocaf, yr ufudd—dod puraf, a'r ymddiried llawnaf, oddiwrth bawb, ac am hyny y mae ein rhwymedigaeth iddo yn myned heibio idd ein rhwymedigaeth i bawb eraill, ac y mae ei ddeddfau ef yn oruchaf ar ddeddfau pawb. Pan y mae deddfau dynion yn gwrthdaro yn erbyn deddf Duw, ein dyledswydd yw ufuddhau iddo ef, ac nid i ddynion. Os bydd gorchymyn rhieni yn groes i orchymyn Duw, eiddo Duw a ddylai gael ufudd—dod; ac os bydd gorchymyn y Llywiawdwr neu y wladwriaeth yn groes i'r eiddo ef, mae ein rhwymedigaeth iddo yn galw am ein bod yn ufuddhau iddo ar y draul (os rhaid yw) o anufuddhau i bawb eraill, ac ar y draul o unrhyw benyd neu gosb a ddichon awdurdodau dynol osod arnom. Felly y gwnaeth Daniel, er gorfod myned i ffau y llewod; felly y gwnaeth y tri llanc, er fod y ffwrn dân wedi ei phoethi seithwaith yn fwy nag arferol o'u blaen, ac felly y gwnaeth yr apostolion, er dyoddef carcharau ac angau.

V. Mae rhwymedigaeth dyn i Dduw yn gyfartal a'r moddion gwybodaeth y mae yn feddu am Dduw. Mae moddion gwybodaeth yn un o brif elfenau rhwymedigaeth. Pe gellid profi fod rhyw ddyn mewn sefyllfa, lle nad oedd moddion o fewn ei gyrhaedd i wybod am Dduw, lle nad oedd modd iddo wybod dim am ei weithredoedd na chlywed dim am dano, yna byddai y dyn hwnw, i'r un graddau yn rhydd oddiwrth rwymedigaeth a chyfrifoldeb. Ond ai dyna ein sefyllfa ni? Na, hollol i'r gwrthwyneb. Beth sydd yn gwneyd