Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/354

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhwymedigaeth y pagan yn fawr, er na welodd Feibl erioed, ac na chlywodd erioed am Waredwr? Mae ei rwymedigaeth ef yn tarddu oddiar yr amlygiadau a roddodd Duw o hono ei hun yn ei weithredoedd mawrion a gogoneddus—mae ei weithredoedd er creadigaeth y byd yn tystio am dano nes y mae cydwybodau ý rhai a welant ei weithredoedd hyn yn eu cyhuddo neu yn eu hesgusodi. Beth sydd yn gwneyd ein rhwymedigaeth ni yn fwy? Onid yr ystyriaeth ein bod wedi meddu datguddiedigaethau mil miloedd helaethach am dano, trwy yr Ysgrythyrau a breintiau goruchel yr efengyl.

VI. Nis gall un cyfnewidiad yn agwedd foesol meddwl dyn tuag at Dduw leihau dim ar ei rwymedigaeth i Dduw. Ystyrir gan rai fod dyn yn ei sefyllfa o ddiniweidrwydd dan rwymau i ufuddhau, a hyny yn berffaith i orchymynion yr Arglwydd, ond wedi iddo syrthio i bechod, nas gall fod ei rwymedigaeth yr un ag o'r blaen, ac nas gall fod Duw yn gofyn mor fanwl yn awr, trwy fod y dyn yn llygredig. Ond cam feddwl hollol am bethau yw y meddwl yna. Mae seiliau y rhwymedigaeth yn parhau yr un, ac y mae y rhwymedigaeth hefyd o angenrheidrwydd yr un. Mae Beelzebub dan yr un rhwymedigaeth i Dduw yn awr ag ydoedd pan yn angel pur yn Ngwynfa. Ni wnaeth ei gwymp i lygredd a phechod leihau dim ar ei rwymedigaeth i'w Greawdwr anfeidrol. Felly y mae deddf sanctaidd Duw yn gofyn ufudd-dod dyn yn awr i'r un manylrwydd a'r un perffeithrwydd ag ydoedd yn ei ofyn yn Eden ardd. Ni wnaeth ei ddrwg a'i wrthryfel leihau dim ar ei rwymedigaeth a'i gyfrifoldeb. O! meddyliwn fod ei orchymyn ef yn awr, fel gynt,