Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/361

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

on gan Eli—a dyma a roddodd fodd i Job fendithio yr Arglwydd, a dywedyd, "Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." A hyn a barodd i'r Salmydd ddweyd, "Aethum yn fud ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn."

2. Mae yr Arglwydd yn gweithredu yn mhob peth mewn doethineb a daioni. "Cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef." Peth anhawdd, efallai, i ni dan drallodion mawrion, yw canfod yr oruchwyliaeth yn ddaionus, er ein bod yn rhwym o ddweyd ei bod yn gyfiawn. Ond felly y mae yn bod—y mae ei holl ysgogiadau ef yn ddaionus yn gystal a chyfiawn. "Duw cariad yw." Dyna oedd efe erioed, a dyna yw, ac a fydd. Nid oddiar nwyd neu deimlad y mae efe yn gweithredu, fel y gwna dynion yn fynych, ond mewn "barn," mewn doethineb a phwyll. Pan yn cymeryd ein hanwyliaid o'n mynwes, y rhai oedd anwyl ganddo ef, efallai mai eu lles hwy oedd ganddo yn benaf mewn golwg, ac nid ein cyfleusdra ni. Cymerodd hwy i wlad sydd well, at gymdeithion gwell, i gylch helaethach o gyfleusderau a defnyddioldeb hefyd, ac i fwynhad o fwynderau helaethach. Maent hwy yn ei glodfori yn awr am iddo wneyd fel y gwnaeth—maent yn foddlawn hollawl i'w drefn, ac yn ei glodfori am yr hyn a wnaeth. Dichon fod ganddo fendithi ninau yn yr amgylchiad, ond i ni wrando ar ei lais ac ymostwng dan ei alluog law. "Da y gwnaeth efe bob peth."

3. Yn yr adegau tywyllaf y mae yn gysur i'r Cristion i feddwl fod holl weinyddiadau llywodraeth Duw yn llaw Cyfryngwr. Os oes cymylau a thywyllwch