Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/362

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'i amgylch weithiau, yn llaw ein Ceidwad y mae awenau ei lywodraeth. "Nid yw y Tad yn barnu neb, eithr efe a roddes bob barn i'r Mab." Mae barnedigaethau cyhoeddus Duw ar y gelynion yn cael eu gweinyddu gan y Cyfryngwr. "Gofyn i mi a rhoddaf y cenedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i'th feddiant. Drylli hwynt â gwialen haiarn, maluri hwynt fel llestr pridd "—hyny yw, y rhai na phlygant i'r wialen aur, a ddryllir felly. Ac os yw gweinyddiad y barnau ar y gelynion yn ei law, diau yw fod y ceryddon tadol ar ei blant yn cael eu gweini ganddo. A phwy yw y Cyfryngwr hwn? Cyfaill pechadur ydyw Cyfaill a Gwaredwr Seion ydyw—un o'n cyfathrach ni. "Gelwir ei enw ef Emmanuel, yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyda ni"—Duw yn ein natur ni, Duw o'n plaid ni, ac yn trefnu ei holl achosion er ein daioni penaf.

4. Mae goruchwyliaethau fuont unwaith yn dywyll wedi eu hesbonio i deulu Duw ar rai prydiau yn nhymor eu bywyd. Hanes Joseph, hanes Job, bywyd ein Gwaredwr ei hun, bywyd llawer dan erledigaethau, a brawf hyn. Dichon y cawn ninau weled, yn nhymor ein bywyd, rai goruchwyliaethau tywyll wedi dyfod yn eithaf goleu. Pwy a wyr hefyd na cheir gweled rhyw ganlyniadau daionus yn dilyn y farn bresenol sydd ar ein gwlad? Fe oddefodd yr Arglwydd i bleidwyr y gaethfasnach ddewis eu cynllun eu hunan. Bygythiasant er's degau o flynyddau bellach, os na chaent eu ffordd y "torent i lawr yr Undeb." Gwnaethant felly pan ganfyddasant fod egwyddorion rhyddid yn cynyddu yn y wlad—codasant arfau bradwrol, a daethant i'r maes! Ond fel Samson gyda'r ddwy golofn gynt, tynasant deml caethiwed am eu penau eu hunain—a