Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/363

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

buont eu hunain yn achlysuron dinystr i'w cyfundraeth. Gwnaeth Duw yn y tro i gynddaredd dyn ei folianu ef, a gweddill cynddaredd a wahardda.

5. Mae dydd i ddyfod pryd y dwg yr Arglwydd bob goruchwyliaeth dywyll yn berffaith oleu. Dydd felly fydd dydd symudiad y Cristion trwy angau i'r byd tragywyddol yno ceir gweled yn oleu yr hyn sydd dywyll yn awr. Dydd felly fydd dydd y farn ddiweddaf. Teflir goleu yn ol y pryd hwnw ar lawer dyffryn tywyll yr aeth aml un trwyddo yn nhaith yr anialwch, a dangosir llawer amgylchiad a barodd i'r Cristion wlychu ei orweddfa a'i lwybrau â dagrau, yn oruchwyliaeth deg a daionus, a rheidiol o eiddo ei Arglwydd a'i Waredwr i'w gael yn lân oddiwrth bob pechod, ac yn gymwys i deyrnas nef.

6. Mae addewid benodol ein Tad nefol genym y bydd i bob peth gydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw—addewid eangach nid oes eisiau ei chael, na modd ei chael.

Dysgwn beidio barnu yn fyrbwyll ei oruchwyliaethau Ef. Pwy ydym ni i farnu goruchwyliaethau a gweithredoedd yr unig ddoeth Dduw!

Gweddiwn am fendith ar y troion nad ydym yn gallu eu hesbonio yn awr.

SYLWADAU AR NATUR EGLWYS.

A DRADDODWYD AR YR ACHLYSUR O ORDEINIAD Y PARCH. G. GRIFFITHS, N. Y.

Act. 2: 42, 47.—"Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yn nghymdeithas yr apostolion, ac yn tori bara, ac mewn gweddiau.—A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig."

Mae y benod hon yn cynwys hanes gweithrediadau yr eglwys Gristionogol gyntaf a ffurfiwyd dan oruch-