Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/364

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyliaeth y Testament Newydd. Iddi y perthyna y rhai a ddychwelwyd dan weinidogaeth bersonol yr Arglwydd Iesu Grist; yma yr oedd Mair, mam yr Iesu, a Mair Magdalen, a'r chwiorydd ffyddlon eraill a enwir yn hanes bywyd yr Iesu; yma yr oedd apostolion Crist yn aelodau; yma tybygid yr oedd y "deg-a-thriugain eraill," a'r "pum' can' brodyr," ac at yr eglwys hon yr ychwanegwyd y dorf o ddychweledigion dydd y Pentecost, llawer o ba rai gwedi hyny a wasgarwyd, ac a sefydlasant eglwysi yn ngwahanol barthau y gwledydd lle y preswylient. Y mae o bwys ein bod yn sylwi beth oedd cymeriad yr eglwys hon, gan mai y Pen—athraw ei hun oedd wedi ffurfio a threfnu ei hachosion. Dywedir,

"Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth... yr apostolion," hyny yw, yr oeddynt dan eu gweinidogaeth yn uniongyrchol, ac yn ymgadw i rodio yn ol eu hathrawiaeth. Hefyd, "yn nghymdeithas yr apostolion," yn mwynhau addysg y gymdeithas, a chysuron y gymdeithas. Hefyd, "mewn tori bara." Cymerent eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, a thorent fara i gofio am ddyoddefaint a marwolaeth eu Hiachawdwr, yn ol ei orchymyn. "Ac mewn gweddiau," dyma ran arbenig o'u gweithrediadau eglwysig, sef glynu wrth weddio—"pob duwiol a weddia arnat ti yn yr amser y'th geffir"—rhai enwog mewn gweddiau oedd y rhai hyn—tywysogion Duw oeddynt yn yr oruwch—ystafell hono—a llwyddasant gyda Duw nes cael y tywalltiad i lawr yn ol y brophwydoliaeth ac addewid y Tad. Hefyd yr oeddynt yn "parhau" yn y pethau hyn, yr hyn a arwydda eu hysbryd diflin a phenderfynol yn ngwaith yr Arglwydd.