Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/366

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eglwys Dduw yn gymdeithas o'r cyfryw ansawdd—nad oes un ffurf neillduol wedi ei nodi allan, ond fod hyny i'w ddewis mewn gwahanol wledydd ac oesoedd yn ol amgylchiadau pethau, yn ol y drefn wladol fwyaf cymeradwy, ac yn ol doethineb pobl Dduw eu hunain. Ond nid felly y dysgasom Grist. Y mae trefn eglwys Crist, dull ei ffurfiad, ei chwbl annibyniaeth ar bawb ond ar ei phen a'i Hathraw mawr, enwau ei swyddogion, y modd i'w dewis, a pha waith a berthyn iddynt, &c., oll yn gynwysedig yn y portread a adawyd gan Grist a'i apostolion; a'r gorchymyn am hyny, fel am y Tabernacl gynt yw, "Gwel ar wneuthur o honot bob peth yn ol y portread a ddangoswyd i ti yn y mynydd." Heb. 8: 5.

4. Mae eglwys Crist yn gymdeithas ag y mae gweinyddiad ordinhadau yn perthyn iddi, sef Bedydd a Swper yr Arglwydd. Perthyna iddi hefyd ddau ddosbarth o swyddogion, y naill i weinyddu mewn pethau tymorol ac amgylchiadol, a'r llall mewn pethau ysbrydol. Ond gadawn hyn yn awr gan fod brodyr eraill i sylwi arnynt.

5. Cymdeithas ydyw ag y mae o'r pwys mwyaf eu bod yn rhodio mewn tangnefedd a chariad. Mae pob peth perthynol i eglwys Dduw yn galw am ei bod yn rhodio mewn cariad. Cymdeithas yw a ffurfiwyd ac a alwyd i fodolaeth gan ddwyfol gariad; oddiyma y daeth fod eglwys gan Grist ar y ddaear. Prif elfen ei phethau oll yw cariad. Mae ei chysur, ei hanrhydedd a'i llwyddiant yn ymddibynu ar ei bod yn rhodio mewn cariad, a thuedd ei holl osodiadau yw arwain i fôr o dragywyddol gariad. Nid oes un gymdeithas yn bod ag y mae anghariad ac anghydfod yn fwy anghyd-