Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/367

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weddol â'i hansawdd, ei hegwyddorion a'i breintiau nag eglwys y Duw byw. Am hyny dywedir, "Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad." 1 Cor. 16: 14; ac yma drachefn y dywedir, "Yr oeddynt oll yn gytun yn yr un lle." Act. 2: 1.

6. Mae eglwys Crist yn gymdeithas ag y mae ei holl achosion i gael eu trafod a'u penderfynu yn gwbl a therfynol ynddi ei hun. Nid oes un awdurdod oddiallan i'r eglwys—na chymanfa na chynadledd nac esgob na neb arall—i arglwyddiaethu arni. Mae yn wir y gall eglwys, gystal a phersonau unigol, gam—ymddwyn, ond ei dyledswydd ydyw (pan fo hyny yn bod) adolygu ei gweithrediadau ynddi ei hun, ac unioni yr hyn a wnaeth ar gam. Gall eglwysi eraill

neu frodyr unigol roi cyngor, a gallant wrthdystio yn erbyn camwedd, a phan y bo eglwys yn parhau yn yr hyn sydd feius, gallant ymwrthod â'i chymdeithas; ond ni allant ddadwneyd ei gweithrediadau heb groesi awdurdod Crist. Y peth diweddaf pan y bo brawd wedi troseddu, ydyw, "Dywed i'r eglwys." Nid dywed wrth yr henuriaeth, nid cyfod yr achos i'r Synod neu'r Gymdeithasfa, ond "Dywed i'r eglwys." Nid oes un llys barnol, o osodiad Crist, yn sefyll rhwng yr eglwys ei hun a'r Fainc ddiweddaf.

Nid oes dim yn Act. 15fed, yn gwrthfilwrio yn erbyn yr egwyddor hon. Rhai wedi dyfod "i waered o Judea" (adn. 1) oedd y terfysgwyr y sonir am danynt yno. Mynent ddwyn y Cristionogion yn mhlith y cenedloedd dan iau yr enwaediad; ac ymddangosent fel rhai wedi derbyn "gorchymyn" oddiwrth yr apostolion i daenu y golygiadau hyny, fel y canfyddir yn amlwg oddiwrth adnod 24ain, " I'r rhai ni roisom ni