Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/368

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyfryw orchymyn." Yn mha le gan hyny yr oedd yn fwyaf priodol i ymdrin â'u hachos, ac i gael gwybod y gwir am y peth hwn, onid yn mhlith Cristionogion Judea? Yno yr oedd y terfysgwyr hyn yn gyfrifol, oddiyno yr oeddynt wedi dyfod allan, ac yno yr oedd yr apostolion yn aros, oddiwrth y rhai yr honent eu bod wedi derbyn y cyfryw orchymyn. Nid oes yma

ddim, ac nis gallwyf ganfod yn un rhan arall o'r Testament Newydd ddim yn erbyn y golygiad fod pob eglwys i derfynu ei hachosion ynddi ei hun yn annibynol ar bob llys arall. Credwyf yn ddifrifol mai dyma "gyfraith y Ty."

7. Mae eglwys Crist yn gymdeithas i lwyddo. "A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig." Gall ddysgwyl llwyddo, oblegid y mae Duw wedi addaw y bydd y "bychan yn fil a'r gwael yn genedl gref," ac y bydd dylifiad pobloedd lawer at y Shiloh. Mae y dwyfol ddylanwadau wedi eu haddaw—dyma addewid y Tad. Mae gan Seion foddion priodol i gyrhaedd llwyddiant. "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr." Dyma ddyben dyfodiad Crist yn y cnawd. "I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd y diafol." mae holl bethau Seion yn bethau y dylai pob dyn yn mhob man deimlo y dyddordeb mwyaf ynddynt; pethau ydynt yn dal perthynas â'r byd oll, a hyny am eu bywyd byth. Mae gweddiau Seion ar y ddaear, ac eiriolaeth y Gwaredwr ar ei rhan fry, yn dangos na bydd iddi gael ei gadael o hyd yn aflwyddianus. Bydded i'r Arglwydd "chwanegu beunydd" at yr eglwys hon a'i holl eglwysi trwy'r byd, "y rhai fyddant gadwedig."